MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Glynllifon,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £13,112 - £13,362 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £13,112 - £13,362 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae'r adran Gofalu am Anifeiliaid ar safle Coleg Glynllifon. Mae'r myfyrwyr yn astudio cyrsiau lefel 1, 2 a 3 llawn amser, ac mae grwpiau o ddisgyblion ysgol yn mynychu yn ystod yr wythnos hefyd. Mae'r myfyrwyr yn cael arweiniad i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau trwy weithgareddau ymarferol a gynllunnir. Yn ystod eu cwrs, bydd cymhlethdod y rhain yn datblygu er mwyn cadarnhau cymhwysedd y myfyrwyr fel eu bod yn bodloni gofynion y bwrdd arholi.Mae'r adran yn addysgu gwahanol agweddau ar ofal anifeiliaid gan gynnwys monitro iechyd, llety, ymddygiad a bwydo amrywiaeth o rywogaethau. Yn ogystal, mae'r myfyrwyr yn ymarfer hyfforddi cŵn a thrin cŵn. Bydd y Technegydd yn cynorthwyo darlithwyr a hyfforddwyr sgiliau ymarferol i ddarparu anifeiliaid perthnasol er mwyn i fyfyrwyr gael datblygu eu sgiliau, arddangos arfer gorau yn eu gwaith bob dydd a chynnig arweiniad a chefnogaeth os oes angen.
Mae'r technegwyr Gofalu am Anifeiliaid yn rhan annatod o'r tîm darparu. Prif gyfrifoldeb y swydd yw cynnal iechyd a lles yr anifeiliaid yn ein gofal. Dylid rhoi blaenoriaeth bob dydd i sicrhau bod pob anifail yn cael bwyd, dŵr, llety a gofal priodol i gynnal ei iechyd i safon uchel. Dylid dangos arfer gorau bob amser wrth drefnu, cynnal a chadw a rheoli cyfleusterau ac adnoddau fel bod mannau gwaith yn cael eu cadw'n dwt a thaclus.
Rhaid archebu a chynnal cyflenwadau o fwyd addas bob amser; dylid storio offer a'u cynnal a'u cadw mewn cyflwr da; dylai systemau gwaith gael eu strwythuro'n dda a dylai mannau gwaith gael eu trefnu a'u cynnal a'u cadw'n dda.
Gan fod angen cymorth technegydd gofal bob dydd am 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, yn ystod y tymor bydd amserlen wythnosol reolaidd ar waith ac efallai y bydd angen i chi weithio ar benwythnosau ar sail rota. Cytunir ar rota ar gyfer cyflenwi cyfnodau gwyliau a bydd angen cyflenwad digonol o dechnegwyr bob amser. O ganlyniad, bydd angen trefnu gwyliau ymlaen llaw fel bod y trefniadau'n glir a bod y cyflenwad yn cael ei gynnal.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/242/26
Cyflog
£13,112 - £13,362 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Glynllifon
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod wedi cau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
18.5 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
30 Meh 2026
12:00 YH(Ganol dydd)