MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Gradd 7 - £32,061 – £35,412
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 24 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 7 - £32,061 – £35,412
Cydlynydd Gwasanaethau - Iechyd a LlesiantRhaglen Arloeswyr i fynd i'r afael ag Anweithgarwch Economaidd Sir Benfro
Y rôl
Fel y Cydlynydd Gwasanaethau (Iechyd a Llesiant), byddwch yn gweithio gyda rheolwr y rhaglen ar ddylunio, cyflwyno a gwerthuso mentrau wedi'u targedu sy'n hyrwyddo llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol ledled Sir Benfro. Mae'r rôl hon yn ganolog i'r Arloeswyr i fynd i'r afael ag Anweithgarwch Economaidd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu rhaglenni un i un a rhaglenni grŵp sydd wedi'u cynllunio i wella gallu unigolion i reoli eu hiechyd a lleihau ei effaith ar eu gallu i weithio.
Byddwch yn darparu cymorth sy'n seiliedig ar gryfderau, gan drefnu a sicrhau bod ymyriadau strwythuredig yn cael eu cyflwyno, gan nodi anghenion, dyheadau a heriau trigolion i feithrin gwelliannau cynaliadwy. Gan weithio gyda'r rheini sy'n profi ynysigrwydd cymdeithasol, iechyd corfforol gwael, neu heriau iechyd meddwl, byddwch yn helpu i feithrin y gwydnwch a'r cymhelliant y mae eu hangen i symud yn agosach at gyflogaeth neu eu cyfeirio at gymorth addas ar gyfer eu hanghenion. Byddwch yn gweithio'n bennaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Sir Benfro.
Mae'r rôl hon yn cynnwys goruchwylio tîm bach o Gynghorwyr Llwybrau, gan roi'r pecynnau cymorth, y pecynnau adnoddau a'r oruchwyliaeth glinigol y mae eu hangen iddynt i ymgorffori arferion rheoli iechyd yn eu hyfforddiant dyddiol.
Prif gyfrifoldebau
- Dylunio a chyflawni - arwain y gwaith o ddatblygu, cydlynu a chyflenwi rhaglenni cymunedol, gweithdai a digwyddiadau llesiant wedi'u teilwra, gan sicrhau bod gweithgareddau'n gynhwysol, yn canolbwyntio ar ganlyniadau, ac yn ymatebol i anghenion lleol. Goruchwylio ansawdd y rhaglen, gan addasu cynnwys i helpu unigolion i oresgyn rhwystrau i ddatblygiad personol, hyfforddiant a chynnydd.
- Goruchwylio a chymorth - darparu goruchwyliaeth, cyfarwyddyd ac arweiniad ar gyfer y prosiect o ddydd i ddydd i dîm bach o gynghorwyr llwybrau. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r gwaith o osod amcanion clir, cynnig cefnogaeth un i un reolaidd, hwyluso sesiynau datblygu tîm, a sicrhau safonau cyson wrth gyflwyno ymyriadau. Cynorthwyo staff i fagu eu hyder a'u medrusrwydd wrth gynnal asesiadau iechyd a llesiant cadarn, gan hyrwyddo ymarfer ystyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.
- Cydweithio - meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith da ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys meddygon teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a sefydliadau lleol. Cydlynu dulliau amlasiantaeth er mwyn sicrhau y gall cyfranogwyr gael mynediad at lwybrau cymorth cyfannol, cydgysylltiedig sy'n mynd i'r afael ag anghenion iechyd, llesiant a chyflogadwyedd.
- Gwerthuso - goruchwylio'r gwaith o fonitro a gwerthuso effaith y rhaglen, gan sicrhau proses casglu data fanwl gywir a defnydd ystyrlon o adborth ansoddol a meintiol. Defnyddio mewnwelediadau i lywio gwelliannau i'r gwasanaeth, cefnogi dysgu mewn tîm, a chyfrannu at ymdrechion adrodd strategol ac argymhellion ar gyfer uwch-arweinwyr.
- Hyrwyddwr - gweithredu fel llysgennad ar gyfer y prosiect Arloeswyr ar draws cymunedau Sir Benfro, gan hyrwyddo ymwybyddiaeth o wasanaethau integredig. Arwain trwy esiampl wrth ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws pob gweithgaredd, gan sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch ac yn ymatebol i'r rheini sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf.
Pwy ydych chi
Rydych chi'n dod â brwdfrydedd gwirioneddol dros gefnogi eraill, ochr yn ochr â dealltwriaeth gref o'r berthynas rhwng iechyd, cyflogaeth a chyfleoedd bywyd gwell. Rydych chi'n arweinydd prosiect hyderus a thosturiol, yn gallu ysgogi a datblygu eraill wrth weithio'n hyblyg mewn amgylchedd deinamig, cymunedol.
Gofynion
• Cymhwyster Lefel 4, neu uwch, mewn maes iechyd, gofal cymdeithasol, neu adsefydlu (neu brofiad cyfatebol).
• Profiad amlwg o oruchwylio staff, gan gynnwys canllawiau perfformiad a datblygu tîm, ochr yn ochr â phrofiad o ddylunio a chyflawni ymyriadau iechyd amlasiantaethol.
• Sgiliau dadansoddi ac adrodd cryf, gyda'r gallu i ddehongli a chyflwyno data ansoddol a meintiol.
• Trwydded yrru lawn y DU a mynediad at gerbyd, gyda'r gallu i deithio ar draws cymunedau gwledig gwasgaredig.
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.