MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa Soulbury 18 – 21 - £67,433 y flwyddyn - £71,013 y flwyddyn. (+ 3 phwynt Asesiad Proffesiynol Strwythuredig ychwanegol)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddogion Gwella Ysgolion

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Graddfa Soulbury 18 – 21 - £67,433 y flwyddyn - £71,013 y flwyddyn. (+ 3 phwynt Asesiad Proffesiynol Strwythuredig ychwanegol)

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002439 Dyddiad postio 02/06/2026 Dyddiad cau ceisiadau 16/06/2026 Cyflog Graddfa Soulbury 18 - 21 - £67,433 y flwyddyn - £71,013 y flwyddyn. (+ 3 phwynt Asesiad Proffesiynol Strwythuredig ychwanegol) Oriau gwaith 37 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Swyddogion Gwella Ysgolion.pdf School Improvement Officer.pdf

Swyddogion Gwella Ysgolion

Disgrifiad Swydd
Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant

Swyddogion Gwella Ysgolion

Wedi'u lleoli yng Nghanolfan Menter y Cymoedd, Abercynon

Swyddogion Gwella Ysgolion

Grymuso Ysgolion i Wella Deilliannau i bob Disgybl

Graddfa Soulbury 18 - 21 - £67,433 y flwyddyn - £71,013 y flwyddyn. (+ 3 phwynt Asesiad Proffesiynol Strwythuredig ychwanegol)

2 x Swydd Llawn Amser

1 x Swydd Ran-amser Dros Dro 0.40 (1 flwyddyn)

Rydyn ni'n bwriadu penodi unigolion llwyddiannus iawn yn arweinwyr ysgol ac yn unigolion proffesiynol gwella ysgolion, yn rhan o'n carfan o Bartneriaid Gwella brwdfrydig ac ymrwymedig. Rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydyn ni'n chwilio am Bartneriaid Gwella sy'n gallu cynorthwyo Ysgolion Cynradd.

A chithau'n Swyddog Gwella Ysgolion, byddwch chi'n cyflawni rhan hanfodol mewn cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol ym maes addysg.

Byddwch chi'n derbyn cymorth o ran eich datblygiad personol a bydd gyda chi fynediad at gyfleoedd yn y rhanbarth, a thu hwnt, er mwyn gwella eich arfer proffesiynol.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, cysylltwch ag Andrew Llewellyn drwy ffonio 07967490612.

Y Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Mehefin 2026 at 12:00p.m.

Mae modd gweld y ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y swydd ar wefan Recriwtio'r Cyngor.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I HOLL STAFF CONSORTIWM CANOLBARTH Y DE A'R CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Yn rhan o'i amcanion tymor hir mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch na hynny. Os byddwch chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol fel sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu'n uwch, byddwch chi'n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi'n dymuno bod yn y cynllun.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.