MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £27,817 - £30,745 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 24 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Llwybrau Ieuenctid (Cyfnod Penodol)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £27,817 - £30,745 y flwyddyn

37 awr yr wythnos

Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2027

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a chanddo sgiliau trefnu a rhyngbersonol gwych. Gyda phrofiad helaeth o weithio gyda phobl ifanc sydd bellaf i ffwrdd o ymgysylltu'n gystadleuol yn y farchnad lafur.

Bydd y swydd yn rhan hanfodol o waith Awdurdodau Lleol i weithredu'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Fel Gweithiwr Ymgysylltu a Phontio bydd deiliad y swydd yn ailymgysylltu'n rhagweithiol ac yn cynnal perthnasoedd â phobl ifanc sydd wedi methu pontio'n llwyddiannus o'r ysgol, y coleg a hyfforddiant a hefyd â'u teuluoedd yn fwy eang, fel y bo'n briodol.

Gan weithio'n agos gyda'r Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu a Gyrfa Cymru bydd deiliad y swydd yn gweithio'n beripatetig, ac yn hynny o beth dylai feddu ar y gallu i weithio fel tîm, ond hefyd yn ôl ei gymhelliant ei hun gan weithio i gynorthwyo pobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol, yn y gymuned ac allgymorth.

Gall y swydd gynnwys uchafswm o 4 noswaith yr wythnos a gweithio ar benwythnosau yn achlysurol.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.

Dyddiad Cau: 24 Mehefin 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person