MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £15,768.50 - £16,298.50 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Gweithiwr Cymorth Seicoleg - Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid (Cyfnod Penodol)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £15,768.50 - £16,298.50 y flwyddyn
18.5 awr yr wythnosCyfnod Penodol hyd at fis Mawrth 2027
Rydym yn ceisio recriwtio aelod o staff llawn cymhelliant a phrofiadol i ymuno â'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd allweddol hon yn cynorthwyo pobl ifanc wrth fynd i'r afael â'u hiechyd meddyliol ac emosiynol i ddod mor annibynnol â phosibl ac iddynt gynnal lle mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Bydd angen i'r deiliad swydd fod yn unigolyn brwdfrydig gyda'r ymrwymiad a'r egni i ffurfio perthnasoedd gwaith da gyda phobl ifanc, gan eu helpu i gyflawni eu potensial llawn.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 17 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person