MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bryncethin Primary School,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £3,001 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 24 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Bryncethin
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £3,001 y flwyddyn
5 awr yr wythnosYn ystod y tymor
3 swydd ar gael
Mae Ysgol Gynradd Bryncethin yn ceisio penodi tri Chynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng canol dydd ac 1pm bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.
Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 24 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 6 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person