MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Maes-Yr-Haul Primary,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £13.47 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig - Ysgol Gynradd Maes yr Haul (Dros Dro)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £13.47 yr awr
Hyd at 25 awr yr wythnosDros dro
Dyddiad gorffen dros dro i'w gadarnhau
Yn dechrau ym mis Medi 2026
Mae Ysgol Gynradd Maes yr Haul yn ysgol fawr, lwyddiannus a chynhwysol sy'n gwasanaethu cymuned Broadlands. Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig gofalgar, brwdfrydig ac ymroddedig gyda phrofiad blaenorol addas i ymuno â'n tîm ymroddedig.
Mae'r rôl werth chweil hon yn cynnwys cefnogi disgyblion unigol ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys cyfathrebu, cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol, synhwyrol a/neu feddygol.
Gan weithio'n agos gydag athrawon dosbarth, y CADY a gweithwyr proffesiynol allanol, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi disgyblion ar sail un i un neu grŵp bach i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn a chefnogi eu llesiant, gan weithredu cynlluniau datblygu unigol a/neu raglenni therapi, a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol.
Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sy'n amyneddgar, yn wydn, yn hyblyg ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant. Mae gennym sawl swydd ar gael ar hyn o bryd, felly mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan ymgeiswyr sy'n ceisio gwaith amser llawn neu ran-amser. (Nodwch unrhyw ddewisiadau'n glir yn eich cais)
Ym Maes yr Haul, gallwn gynnig:
Tîm staff croesawgar, cefnogol a phrofiadol, gydag ymrwymiad cryf i gynhwysiant a llesiant disgyblion.
Amgylchedd dysgu modern gyda chyfleusterau a chyfleoedd rhagorol ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol pellach
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau 22 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 29 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person