MANYLION.
  • Lleoliad: Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £20,429. - £31,579 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 25 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Celf (Addysg Uwch Celf Gain) 0.6, Cytundeb Cyfnod Penodol am 12 mis

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £20,429. - £31,579 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae'r rôl hon o fewn y maes Celf yn yr adran Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai, ac wedi'i leoli ar y campws Celf ym Mharc Menai. Mae llwyddiant y cyrsiau Celf yn cael ei barchu ledled Cymru a thu hwnt, gyda chyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i lwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol o fewn y sector Celf.

Dyma gyfle i ddarlithydd Celf ymuno â'n tîm llwyddiannus, deinamig a chefnogol.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o ddysgu ac addysgu ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i

gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/235/26

Cyflog
£20,429. - £31,579 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Bangor

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

• Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.

Patrwm gweithio
22.5 awr yr wythnos

508 awr o amser addysgu blynyddol - 14.5 i 15.5 awr yr wythnos.

Hyd at 3 awr yr wythnos o weithio'r safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
25 Meh 2026
12:00 YH(Ganol dydd)