MANYLION.
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £26,980 - £31,245
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 24 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arddangoswr hyfforddwr mewn Peirianneg Amaethyddol CC/3122

Coleg Cambria

Cyflog: £26,980 - £31,245

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Arddangoswr hyfforddwr mewn Peirianneg Amaethyddol

Lleoliad: Llysfasi

Math o Gontract: Parhaol, Lawn Amser

Graddfa Gyflog: £26,980 - £31,245

Ydych chi'n angerddol am amaethyddiaeth ac yn chwilio am gyfle cyffrous i rannu eich gwybodaeth ac arbenigedd gyda'r genhedlaeth nesaf? Os felly, gall ein swydd Hyfforddwr Arddangoswr yng Ngholeg Cambria fod yn ddelfrydol i chi!

Fel Arddangoswr Hyfforddwr, byddwch yn cael y cyfle i gyflwyno sesiynau ymarferol a rhoi cyfarwyddyd ymarferol i fyfyrwyr yn y rhaglen Peirianneg amaethyddol. Byddwch yn gyfrifol am baratoi amserlen o weithgareddau ymarferol a chynorthwyo i fonitro cynnydd cyffredinol pob myfyriwr, gan sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion dysgu ac yn cyflawni eu potensial llawn.

Yma yng Ngholeg Cambria rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd gofalgar a chefnogol ar gyfer ein holl fyfyrwyr. Fel Hyfforddwr Arddangoswr byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn cyflawni'r nod hwn. Byddwch yn mentora ac yn arwain myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau a gwybodaeth ym maes amaethyddiaeth.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr er mwyn eich cynorthwyo gyda'ch datblygiad proffesiynol gan sicrhau eich bod wedi'ch paratoi i gyflwyno cyfarwyddyd o'r ansawdd uchaf i'n myfyrwyr.

Y dyddiad cychwyn ar gyfer y rôl hon yw 1 Medi 2026

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc proffesiynol perthnasol
  • Profiad diwydiannol diweddar yn y maes arbenigol perthnasol
  • Gallu cyflwyno sesiynau ymarferol effeithiol o ansawdd uchel yn hyderus sy'n gwella dysgu i'n myfyrwyr.
  • Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn

Mae sgiliau Cymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos bod ganddyn nhw sgiliau Cymraeg Lefel 3. Bydd asesiad sgiliau Cymraeg yn rhan o'r broses ddethol i nodi cymhwysedd, hyder ac addasrwydd ar gyfer cynllun datblygu.

Rydym wedi ymrwymo i dyfu ein darpariaeth a'n gwasanaeth dwyieithog, ac er bod y gallu i weithio yn y Gymraeg yn rhan allweddol o'n nodau, rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n frwdfrydig am ddatblygu'r sgiliau hyn yn y swydd. Os oes gennych angerdd dros beirianneg amaethyddol ac awydd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, rydym yn eich annog i wneud cais waeth beth fo'ch rhuglder yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Nod Coleg Cambria yw hyrwyddo a gwreiddio'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn weithredol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogaeth i'n cydweithwyr ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gynlluniau hyfforddi iaith Gymraeg wedi'u teilwra yn ogystal â thaliadau cymhelliant am ddarpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig