MANYLION.
  • Lleoliad: Nantgarw Campus,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £27,060.00 - £51,963.00 CALl Pro rata (Asesir y cyflog ar sail cymwysterau addysgu a phrofiad diwydiannol)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Peirianneg (Trydanol a Mecanyddol)

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £27,060.00 - £51,963.00 CALl Pro rata (Asesir y cyflog ar sail cymwysterau addysgu a phrofiad diwydiannol)

Darlithydd mewn Peirianneg (Trydanol a Mecanyddol)
Swydd ddisgrifiad
Gwybodaeth am y Rôl:

Mae ein hadran Beirianneg yn cynnig darpariaeth arbenigol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys Peirianneg Fecanyddol, Trydanol, Awyrofod, Rheilffyrdd a Modurol. Rydym yn cynnig llwybrau dysgu sy'n berthnasol i'r diwydiant, sy'n adlewyrchu amrywiaeth ac uchelgais y sector peirianneg fodern.

Fel Darlithydd, byddwch yn addysgu'n effeithiol ar ystod o gyrsiau ac ar ystod o lefelau fel y cytunwyd gyda'ch rheolwr llinell/Pennaeth yr Ysgol. Byddwch yn cefnogi dysgwyr i gyflawni canlyniadau llwyddiannus ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cadw a recriwtio yn ôl yr angen. Byddwch yn gosod disgwyliadau uchel i ddysgwyr ac yn cyfrannu at amgylchedd sy'n annog pob dysgwr i fod yn uchelgeisiol.

Rhagor o wybodaeth:

Mae gan yr holl staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd gyfrifoldeb i ddiogelu a hyrwyddo lles dysgwyr, a disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y Coleg gynnal yr ymrwymiad hwn. Fel rhan o'n prosesau recriwtio mwy diogel, rhaid i bob dechreuwr newydd gwblhau'r gwiriadau cyn-gyflogaeth gofynnol yn llwyddiannus cyn dechrau cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Ar gyfer rolau sy'n cynnwys rhyngweithio uniongyrchol â dysgwyr, mae cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) hefyd yn ofyniad gorfodol.

Rydyn ni'n sefydliad sy'n cael ei yrru gan werthoedd sy'n ymrwymedig i gyflogi gweithlu amrywiol a meithrin amgylchedd cynhwysol lle mae cydweithwyr yn cael eu parchu a'u cefnogi i fod yn nhw eu hunain. Rydyn ni'n trin pob unigolyn gydag urddas, tegwch a pharch.

Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a chymuned, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd a/neu gred. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau a gwneud ein prosesau recriwtio mor gynhwysol a hygyrch â phosibl.

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg. Os ydych chi'n siaradwr Cymraeg neu'n ddysgwr, byddem yn falch iawn o dderbyn eich cais.

Lleolir rolau yng Ngholeg y Cymoedd ar ein campysau, i gefnogi addysgu, profiad y dysgwr a darparu gwasanaethau.

Gall deiliaid swyddi ofyn am weithio hyblyg, gan gynnwys gweithio o bell cyfyngedig, drwy Broses Gweithio Hyblyg y Coleg (hawl statudol o'r diwrnod cyntaf). Mae ceisiadau yn cael eu hystyried yn unigol yn seiliedig ar anghenion y rôl a'r gwasanaeth.

Anogir ymgeiswyr neu weithwyr sydd ag anghenion hygyrchedd neu addasu rhesymol i drafod y rhain gyda'r tîm Pobl a Diwylliant.

Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 11:59pm ar y dyddiad cau a hysbysebwyd. Efallai na fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried.

Sut i wneud cais

Ein nod yw gwneud y broses ymgeisio mor glir a chefnogol â phosibl. Dilynwch y camau isod:

Cam 1: Nodi'r Rôl Priodol

Edrychwch ar ein swyddi gwag presennol a dewiswch y swydd sy'n cyd-fynd â'ch sgiliau a'ch dyheadau. Os oes angen unrhyw arweiniad arnoch, cysylltwch â ni.

Cam 2: Cyflwyno eich Cais trwy iTrent
Rhaid cwblhau ceisiadau gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein. Sylwch nad ydym yn derbyn CVs.

Cam 3: Dangos sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf

Defnyddiwch yr adran "Rhagor o wybodaeth" i ddangos yn glir sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf Hanfodol ac, lle bo'n berthnasol, y meini prawf Dymunol fel yr amlinellir yn y Fanyleb Person. Dilynwch drefn y meini prawf i gefnogi'r broses o lunio rhestr fer.

Cam 4: Nodi eich Dewisiadau
• Nodwch yr iaith a ffefrir gennych ar gyfer unrhyw ohebiaeth a threfniadau cyfweliad (Cymraeg neu Saesneg).
  • Os hoffech gyflwyno cais fideo, mae croeso i chi wneud hynny-rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Cam 5: Aros yn Wybodus

Byddwch yn derbyn diweddariadau e-bost drwy'r system iTrent. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm Pobl a Diwylliant yn people@cymoedd.ac.uk neu ffoniwch 01443 663285.

Angen cefnogaeth?
Os hoffech drafod y rôl neu'r broses ymgeisio, neu os angen unrhyw arweiniad arnoch, cysylltwch â ni. Rydyn ni yma i'ch cefnogi drwy gydol eich taith ymgeisio.