MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Abercerdin Primary,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Teachers Pay Scale
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro (Dros dro) - Ysgol Gynradd Abercerdin
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Teachers Pay Scale
Cyfnod mamolaeth dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf (o fis Medi 2026)Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Abercerdin yn dymuno penodi athro/athrawes ragorol i gwmpasu hyd yr absenoldeb mamolaeth, gan ddechrau ym mis Medi 2026. Os ydych yn athro/athrawes effeithiol, frwdfrydig a llawn cymhelliant, byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â'n tîm cyfeillgar, gofalgar a phroffesiynol. Rydym yn chwilio am ymarferydd eithriadol a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu profiadau dysgu sy'n ysbrydoli i'n holl ddisgyblion.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:
Dangos sgiliau gwych o ran addysgu a rheoli dosbarth;
Meddu ar ddealltwriaeth dda iawn o'r Cwricwlwm i Gymru;
Bod yn frwdfrydig ac yn ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu cyfoethog, boddhaus a dilys i blant;
Dangos disgwyliadau uchel o gyflawniad, safonau ac ymddygiad;
Meddu ar y gallu i greu amgylchedd dysgu hapus, heriol ac effeithiol
Gallu gweithio fel rhan o dîm ymroddedig a bod yn gwbl gefnogol i werthoedd ac ethos ein hysgol gynhwysol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau 22 Mehefin 2026
Arsylwi Gwersi: Yr wythnos sy'n dechrau 29 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 06 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person