MANYLION.
  • Lleoliad: Nantyffyllon Primary,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Teachers Pay Scale
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro - Ysgol Gynradd Nantyffyllon (Dros Dro)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Teachers Pay Scale

Dros dro am hyd at 1 flwyddyn.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Nantyffyllon yn dymuno penodi athro/athrawes effeithiol, frwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm cyfeillgar, gofalgar a phroffesiynol. Rydym yn chwilio am ymarferydd eithriadol a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu profiadau dysgu eithriadol i'n holl ddisgyblion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

- dangos sgiliau gwych o ran addysgu a rheoli dosbarth;

- meddu ar ddealltwriaeth dda iawn o'r Cwricwlwm i Gymru ac ADY;

- bod yn frwdfrydig ac yn ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu cyfoethog, boddhaus a pherthnasol i'n plant;

- dangos disgwyliadau uchel o ran dysgu i bob plentyn;

- gallu gweithio fel rhan o dîm ymroddedig a bod yn gwbl gefnogol i werthoedd ac ethos ein hysgol gynhwysol.

Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno, rydym yn croesawu eich cais yn fawr.

Mae croeso i ymgeiswyr ar y rhestr fer drefnu ymweliad drwy swyddfa'r ysgol.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 17 Mehefin 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Mehefin

Wythnos arsylwi gwersi yn dechrau 22 Mehefin (i'w gadarnhau)

Dyddiad y Cyfweliad: 30 Mehefin 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person