MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Dolgellau,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £30,575 - £32,622 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 18 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol - Plastro, Tymor yn Unig
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £30,575 - £32,622 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae Adran Adeiladwaith Coleg Meirion-Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau adeiladwaith. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern. O fewn yr adran, mae gennym ddau safle; Hafan (Pwllheli) a CaMDA (Dolgellau), mae'r ddarpariaeth Adeiladwaith wedi'i lleoli yng NghaMDA (Dolgellau).Rydym yn chwilio am aelod o staff llawn amser parhaol i ymuno ag Adran Adeiladwaith y Coleg; a rydym yn barod i gyflogi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sydd â phrofiad yn y maes Adeiladwaith, yn benodol y maes Plastro.
Mae'r adran yn cynnig darpariaeth eang sy'n cynnwys cyrsiau amser llawn, rhan-amser, prentisiaethau a'r cwricwlwm 14-16. Ar hyn o bryd mae gennym dîm cryf o ddarlithwyr Adeiladwaith ym meysydd plastro, gosod brics, gwaith coed, plymio ac adeiladwaith cyffredinol, ynghyd â staff goruchwylio sgiliau ymarferol mewn meysydd gan gynnwys plymio, gosod brics a gwaith coed, ac aelodau staff sy'n gweithio'n benodol gyda'r ddarpariaeth brentisiaethau. Rydym yn edrych am aelod o staff fydd yn ategu at hyn ac yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus yr adran.
Bydd rôl y goruchwyliwr sgilau ymarferol yn cynnwys gweithio o dan arweiniad y darlithydd i ddarparu addysg ddwyieithog o safon uchel i ddysgwyr ar ystod o gymwysterau a lefelau, gan gynnwys Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 3, ar raglenni llawn amser, rhan amser a phrentisiaethau. Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a chyflwyno sesiynau ymarferol yn y gweithdy, cynnal ymweliadau safle ac asesu gwaith ar y sale pan fo angen, a darparu cymorth parhaus i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle gorau i lwyddo.
Mae cysylltiad cryf â'r ddarpariaeth 14-16 yn hanfodol, gyda disgwyliad i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at ddarpariaeth addysg o safon o 14-16 ymlaen i addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Disgwylir hefyd rôl rhagweithiol wrth gefnogi'r darlithydd â'r tîm i ddatblygu'r cyrsiau a darpariaeth Blastro, gan sicrhau bod dysgwyr yn ganolog i bopeth a wnawn.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu mewn gweithdy a chefnogi'r darlithydd i ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus sy'n hyrwyddo llwyddiant dysgwyr. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i ddysgwyr ac i helpu i symud yr adran yn ei blaen.
Mae'n debygol y bydd Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol llawn amser wedi ei amserlennu am hyd at 1000 o oriau cyswllt gyda dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd gyda lleiafswm o 500 awr yn goruchwylio dysgwyr mewn gweithdy.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/230/26
Cyflog
£30,575 - £32,622 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Dolgellau
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
40 wythnos y flwyddyn
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
18 Meh 2026
12:00 YH(Ganol dydd)