MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhos-on-Sea,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £15,169.63 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu (Prentisiaid Iau), Tymor yn Unig, Cytundeb Penodol hyd at 02 Gorffennaf 2027
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £15,169.63 y flwyddyn
Cefnogi dysgwyr sydd wedi cofrestru ar y Rhaglen Alwedigaethol i Brentisiaid Iau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan eu galluogi i wireddu eu potensial a gwneud yn fawr o'r cyfleoedd dysgu sydd ar gael iddynt. Cefnogi a chynorthwyo staff addysgu yn eu gofal academaidd, cymdeithasol a bugeiliol o'r dysgwyr.Byddwch yn gweithio'n agos gyda nifer o diwtoriaid yn y coleg sydd un ai'n arbenigwyr pwnc neu'n arbenigwyr ym maes cymorth dysgu, yn ogystal â dysgwyr y rhaglen. Byddwch yn cefnogi dysgwyr ifanc wrth iddynt drosglwyddo i'r coleg, gan hyrwyddo eu hannibyniaeth, eu hyder a'u hymgysylltiad â dysgu galwedigaethol. Byddwch yn rhoi pob anogaeth iddynt i gymryd y cam cyntaf ac i weithio'n effeithiol mewn tîm. Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi staff perthnasol a meithrin yn barhaus y sgiliau sydd eu hangen i fod mor effeithiol â phosibl yn y swydd.
Disgwylir i Gynorthwywyr Cymorth Dysgu gyflawni eu dyletswyddau'n unol â chanllawiau Grŵp Llandrillo Menai i Gynorthwywyr Cymorth Dysgu a System Ansawdd y Coleg. Bydd y dyletswyddau'n amrywio'n ôl anghenion y dysgwyr, ond gallant gynnwys rhai, neu bob un o'r prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau canlynol.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/223/26
Cyflog
£15,169.63 y flwyddyn
Lleoliad Gwaith
- Llandrillo-yn-Rhos
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
- Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, a bennir yn flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
- Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.
- Bydd contractau Amser Tymor yn derbyn hawl pro rata i'r uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
25 awr yr wythnos
38 wythnos y flwyddyn
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
12 Meh 2026
12:00 YH(Ganol dydd)