MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Dolgellau,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae ein canolfannau Chweched Dosbarth yn cynnig addysg o'r safon uchaf.Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ysbrydoledig i ymuno â'r tîm i addysgu i safon uchel a galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae ein colegau'n rhan o gynllun Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru a gynlluniwyd i gefnogi'r rhai mwyaf galluog i wireddu eu potensial academaidd yn llawn ac i symud ymlaen i'r Prifysgolion gorau.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddianus fod yn addysgu ar gampws Pwllheli ar ddydd Llun a Mercher a champws Dolgellau ar ddydd Mawrth, Iau a Gwener. Bydd cyfle i chi weithio mewn laborai modern, sydd wedi'i gyfarparu'n dda lle mae arbrofi ymarferol wrth wraidd y dysgu. Bydd hyn yn digwydd gyda chefnogaeth technegydd ymroddedig.
Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y pwnc sy'n edrych i gymryd eu camau cyntaf i addysg. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a darparu cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus sy'n hyrwyddo llwyddiant dysgwyr. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i ddysgwyr.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i
gyflawni hyd eithaf eu gallu. Byddai disgwyl i chi ddylunio a chyflwyno gwersi deniadol sy'n herio myfyrwyr ac yn meithrin cariad at y pwnc.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr. Rydym yn chwilio am addysgwr sy'n awyddus i fynd â dysgu y tu hwnt i furiau'r ystafell ddosbarth. Bydd gennych yr hyblygrwydd a'r gefnogaeth i arwain teithiau archwiliadol a chyfleoedd cyfoethogi pynciau.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr. Bydd gofyn i chi ddarparu adborth o ansawdd uchel ac ymyriadau i sicrhau bod pob myfyriwr yn cyrraedd neu'n rhagori ar ei radd darged.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.
Rhoddir ystyriaeth i geisiadau ar sail ffracsiynol o 0.8108.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/221/26
Cyflog
£33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Dolgellau
- Pwllheli
Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol
• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.
Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio'r safle gyda chytundeb y rheolwr.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
10 Meh 2026
12:00 YH(Ganol dydd)