MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa Cyflog Arweinyddiaeth L14 £72,579 - L18 £79,288
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Cyflog Arweinyddiaeth L14 £72,579 - L18 £79,288
Swydd: Pennaeth Cynorthwyol CADY - Ysgol Bro Preseli 3 -19 oedDyddiad Cychwyn: 1af o Fedi 2026, Graddfa Cyflog Arweinyddiaeth L14 - L18
Cytundeb Parhaol, Llawn Amser
Dyddiad Cau: 10fed o Mehefin 2026
Mae Corff Cysgodol Llywodraethol Ysgol Bro Preseli yn awyddus i benodi Pennaeth Cynorthwyol CADY. Mae'r ysgol yn chwilio am unigolyn blaengar, uchelgeisiol, ffyddlon, proffesiynol a gweithgar sy'n meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn ymroddedig i gynnig yr addysg orau i'r disgyblion.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Cydlynydd ADY
Prif Gyfrifoldebau
Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Arwain ar Fframwaith Y Ddeddf ADY.
- Gweithredu'r polisi ADY ym mywyd yr ysgol pob oed.
- Cysylltu â chynghori cyd-athrawon.
- Cydgysylltu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Cadw cofrestr ADY yr ysgol a goruchwylio cofnodion ar yr holl ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.
- Cysylltu â rhieni'r plant ag anghenion dysgu ychwanegol,
- Cyfrannu at HMS staff.
- Cysylltu gydag asiantaethau allanol sy'n cynnwys y gwasanaeth seicoleg addysgol ag asiantaethau allanol sy'n cynnwys y gwasanaethau meddygol a chymdeithasol a'r cyrff gwirfoddol.
- Cyfrifoldeb am ddisgyblion sy'n derbyn gofal.
- Cydlynu'r pontio ar gyfer disgyblion ADY ar draws y camau cynnydd ac addysg ôl-16
- Cydlynu Cynlluniau Iechyd Unigol disgyblion ac adolygu rhain yn flynyddol
- Sicrhau systemau cyfathrebu effeithiol gan gynnwys adborth ynglŷn â dysgu disgyblion er mwyn dylanwadu ar gynllunio hir dymor.
- Monitro ansawdd y ddarpariaeth ADY gan sefydlu systemau i adnabod anghenion disgyblion, sicrhau bod y systemau'n cael eu cydlynu, gwerthuso a'u hadolygu.
- Sicrhau bod nodau ac amcanion y Ddeddf ADY a'r Polisi ADY yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Gwella Ysgol. Cydweithio ag asiantaethau allanol.
- Darparu cyngor i'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr ynglŷn â newidiadau lleol a chenedlaethol allai gael effaith ar bolisi ac ymarfer.
Rôl Fugeiliol y Cydlynydd ADY
- Rhoi cefnogaeth i holl aelodau'r Adran ADY fel bod angen, yn enwedig aelodau newydd.
- Cynorthwyo datblygiadau personol a chymdeithasol disgyblion yr adran.
- Cynorthwyo wrth gynghori disgyblion ynghylch eu cynnydd yn y pynciau, neu pan fo angen iddynt ddewis eu pynciau.
- Cydweithio'n agos â'r Swyddog Gyrfau i gynghori disgyblion ynglŷn â swyddi neu gyrsiau addysg bellach.
- Sicrhau safonau uchel o ddisgyblaeth ymysg disgyblion.
- Cydweithio â staff y Porth o ran cynnig cyfleoedd cwricwlaidd ac allgyrsiol i ddisgyblion y Porth.
Cynnydd a Chyrhaeddiad Disgyblion ADY
- Monitro cynnydd, lles a disgyblaeth y disgyblion ac i ddilyn lan ar unrhyw adolygiadau cynnydd gan gyd-weithio â'r timoedd bugeiliol a rhieni lle'n briodol.
- Cydweithio ag adrannau, ysgolion clwstwr parthed materion trosglwyddo ac asiantaethau allanol.
- Cydlynu unrhyw geisiadau ar gyfer amgylchiadau arbennig mewn arholiadau allanol mewn perthynas â'r Swyddog Arholiadau.
- Cydlynu trefniadau a chyfrifoldebau staff cynorthwyol.
- Dylanwadu ar y Polisi Dysgu ac Addysgu er mwyn hyrwyddo gwahanol agweddau o ddysgu cynhwysol.
- Arwain HMS yn gyson a lle'n briodol gan gynnwys cadeirio'r Gweithgorau Cynnydd a Lles ar draws y Camau Cynnydd.
- Sicrhau cyfleoedd i gydweithwyr arsylwi a chael eu harsylwi yn unol â rheolau Datblygu Perfformiad.
- Casglu a dadansoddi data asesu ar ddisgyblion a'i ddefnyddio i godi safonau.
- Gweithio gyda'r disgyblion, arweinwyr pwnc, athrawon dosbarth a Phenaethiaid Cynnydd a Lles i sicrhau disgwyliadau uchel o ymddygiad a chyrhaeddiad ar gyfer disgyblion ADY.
- Cefnogi datblygiadau a gweithgareddau i wella safonau llythrennedd a rhifedd i ddisgyblion ADY.
- Goruchwylio a monitro cynlluniau Proffil Un Dudalen i ddisgyblion sy'n derbyn ymyrraeth sydd wedi'u dargedu.
- Datblygu systemau ar gyfer cydweithwyr i fonitro a chofnodi cynnydd disgyblion ADY tuag at dargedau unigol i'w canfod mewn CDU a chynlluniau bugeiliol.
- Adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol a chynlluniau bugeiliol yn gyson gyda rhieni, disgyblion, aelodau staff priodol ac asiantaethau allanol gan gytuno ar dargedau newydd.
- Cefnogi'r Pennaeth wrth ymateb i gyfrifoldebau statudol ar gyfer disgyblion ADY a'r Adolygiadau Blynyddol.
- Arwain yr Adolygiadau Blynyddol i ddisgyblion penodol.
- Cydweithio a'r Swyddog Arholiadau er mwyn sicrhau bod adroddiadau'r Seicolegydd Addysg yn gywir a bod anghenion ar gyfer disgyblion ADY yn cael eu hadnabod.
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Arwain y tîm ac i fod yn weithredol wrth gynllunio gwelliant gan sicrhau bod gwaith yr adran yn cael ei werthuso.
- Hyrwyddo awyrgylch o ddatblygiad proffesiynol cyson ymysg aelodau'r adran ac i rannu arfer dda.
- Paratoi Cynllun Gwella'r Adran ADY yn flynyddol, diweddaru'r Hunanarfarniad Adrannol yn flynyddol.
- Adolygu'n flynyddol disgrifiadau swyddi aelodau'r adran.
- Gweithredu fel Arweinydd Llinell i aelodau'r adran gan weithredu'r polisi Datblygu Perfformiad yn flynyddol.
- Adnabod anghenion DPP/HMS aelodau'r adran a sicrhau bod y Cydlynydd DPP/HMS yn darparu hyfforddiant priodol.
- Dosbarthu gwybodaeth angenrheidiol i aelodau'r adran gan gynnwys manylion Cod Ymarfer/Polisi ADY.
- Gwerthuso a monitro gwaith adrannau penodol a bod yn ddolen gyswllt rhwng y Tîm Arwain a'r adrannau
Rheolwr Cyswllt Bugeiliol
- Gweithredu fel Rheolwr Cyswllt Penaneth Cynnydd a Lles
Cyfrifoldebau Cyffredinol (sy'n gyffredin i bob aelod o'r Tîm Arwain)
- Unrhyw gyfrifoldebau rhesymol ychwanegol a nodir gan y Pennaeth.
- Cynorthwyo gydag arolygaeth adeg yr awr ginio, peth cyntaf yn y bore, yn ystod yr egwyl ac ar ddiwedd y dydd wrth ryddhau'r bysiau.
- Cyfrannu at drefn dydd i ddydd yr ysgol.
- Cynnig y gefnogaeth briodol i staff.
- Arwain gwasanaethau boreol ar rota.
- Mynychu cyfarfodydd Tîm Rheoli a chadw cofnodion ar rota.
- Cyfrannu at les disgyblion.
- Paratoi ar gyfer arolygiadau ESTYN ac arolygiadau allanol eraill ee.Partneriaeth.
- Cynnig y gefnogaeth briodol i staff.
- Cynnal cyfarfodydd Rheolwr Llinell Pynciol a Bugeiliol cyson pob hanner tymor gan ddilyn agenda penodol a chadw cofnodion.
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.