MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £11.48 - £11.71
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Aml-Chwaraeon

Hyfforddwr Aml-Chwaraeon

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Hyfforddwr Aml-Chwaraeon

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Telir fesul awr, Cyfnod Penodol (Awst 2023). 

Graddfa Gyflog:  £11.48 - £11.71 yr awr

Ar hyn o bryd mae gennym swyddau wag ar gyfer Hyfforddwr Aml-Chwaraeon ar ein safle Glannau Dyfrdwy.

Fel Hyfforddwr Aml-Chwaraeon yng Ngholeg Cambria byddwch yn gyfrifol am ddarparu sesiynau aml-chwaraeon ar draws y safleoedd Coleg Cambria, gan gefnogi datblygiad ein profiad gwirfoddoli myfyrwyr ardderchog a gweithio i fodloni gofynion ein cymuned leol. Byddwch yn gweithio gyda hyfforddwyr eraill ac yn rhan o’r rhaglen Cambria Heini.

Gofynion Hanfodol

Profiad o hyfforddi grwpiau mawr o blant.

Dealltwriaeth o chwaraeon amrywiol ac yn awyddus i ymgymryd â hyfforddiant athletau, pêl-droed, pêl-osgoi a phêl-fasged.

Dealltwriaeth a gwybodaeth am faterion diogelu.

Lefel uchel o sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol.

Yn meddu ar gymhwyster Llythrennedd Digidol Lefel 2 neu’n barod i weithio tuag at hynny.

Addysg at Lefel 2 o leiaf mewn Saesneg a Mathemateg.

Lefel uchel o flaengaredd a'r gallu i addasu.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg. 

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’. 

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.