MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £16.58 - £18.69
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Asesydd Harddwch

Asesydd Harddwch

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth

Teitl y Swydd: Asesydd Harddwch

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Telir fesul awr, Cyfnod penodol (Mehefin 2023) 

Graddfa Gyflog:  £16.58 - £18.69 yr awr

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Asesydd Harddwch i ymuno â’n tîm Trin Gwallt a Harddwch ar ein safle Iâl, Wrecsam. Fel Asesydd yng Ngholeg Cambria, byddwch yn gyfrifol am asesu ystod o gymwysterau hyd at Lefel 4. Bydd hyn yn cynnwys monitro cynnydd ymgeiswyr tuag at ennill eu cymwysterau, rhoi adborth adeiladol iddynt a’u helpu i baratoi portffolio tystiolaeth.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster proffesiynol Lefel 5 o leiaf mewn pwnc perthnasol neu gymhwyster cyfwerth.

Cymhwyster asesydd neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny (TAQA).

Cymhwyster dilysydd, neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny. 

Cymhwyster hyfforddi neu addysgu ychwanegol.  (E.e.: PTLLS)

Profiad amlwg yn y diwydiant mewn maes perthnasol proffesiynol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg. 

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’. 

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.