MANYLION.
  • Lleoliad: Ygg Tregeles,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Cyflog: Gradd 3 (SCP 3-5) - £7,237-£7,471 Cyflog Gwirioneddol Cyflog: Gradd 1 (SCP 3) - £1,675
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Level 2 Teaching Assistant (Welsh)

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Cyflog: Cyflog: Gradd 3 (SCP 3-5) - £7,237-£7,471 Cyflog Gwirioneddol Cyflog: Gradd 1 (SCP 3) - £1,675

I ddechrau: Medi 1af 2026

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU

LEFEL 2 A SWYDD CYNORTHWYYDD AMSER CINIO.

DROS DRO TAN 31 ain AWST 2027

12.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd addysgu) 2.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd amser cinio) - 5 bore yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.

Mae'r swydd yma am 12.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd addysgu) a 2.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd amser cinio), 39 wythnos y flwyddyn.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Dyddiad Cau: 12.00 canol dydd, Dydd Llun, 01 Mehefin 2026

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tregeles for which the ability to speak Welsh is essential