MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Carmarthenshire,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £51,125 - £54,125
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £51,125 - £54,125
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 3242
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Soulbury 8-10
Cyflog:
£51,125 - £54,125
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£26.50 - £28.05
Oriau Contract:
37
Soulbury SPA Points:
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn awdurdod lleol sy'n perfformio'n uchel, bywiog ac yn edrych ymlaen, sy'n chwilio'n gyson i wella ac sy'n ymroddedig i gynnal ei enw da am ddarparu gwasanaethau o'r radd uchaf. Rydyn ni'n chwilio am Athro Ymgynghorol ar gyfer Awtistiaeth i helpu Rheolwyr ADY ac cydweithio gyda'r tîm awtistiaeth i fonitro ac herio ysgolion i sicrhau'r defnydd gorau o gyllid ADY gan ddefnyddio data i gefnogi disgyblion ag anghenion Awtistiaeth. Bydd y sawl sy'n y swydd yn cyfrannu at hyfforddi staff ysgol i adeiladu capasiti i ddiwallu anghenion pob disgybl Awtistig, i ymgorffori cynllunio canolbwyntio ar y person, datblygu Cynlluniau Datblygiad Unigol a defnyddio mapio darpariaeth a offer tracio cynnydd disgyblion.
Bydd y person yn y swydd yn helpu rheolwyr ADY gyda datblygiadau strategol, prosesau ADY a'r Panel Cynhwysiant.
Mae'r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnig cyfle gwych i ymuno â Chyngor sy'n edrych i fod yn arloesol yn y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau. Rydym yn chwilio am person modern, ysbrydoledig a chynhwysol gyda'r profiad, brwdfrydedd, egni, ysgogiad ac ymrwymiad perthnasol. Byddwch yn gweithio gyda tîm bach o staff cymorth ymroddedig sy'n cefnogi anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau awtistig a byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol ehangach i hyrwyddo cyflawniad a lles.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Elinor Williams / Rebecca Williams (Rheolwr ADY), yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ar 01267 246455 / erwilliams@carmarthenshire.gov.uk / rawilliams@carmarthenshire.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
Advisory Teacher - ASD (012587).pdf - 150KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
25 Mehefin 2026
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 01/06/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.