MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £29,878 - £32,423 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 09 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Anogwr Prentisiaethau Iau, Cyfnod penodol hyd at Gorffennaf 2028 (Coleg Menai)
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £29,878 - £32,423 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swyddMae Coleg Llandrillo yn cynnig cyfle cyffrous i Anogwr Prentisiaeth Iau ymuno â thîm ymroddedig sydd wedi'i leoli ar gampws Llangefni. Mae'r rôl werth chweil hon yn cynnig y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl ifanc 14-16 oed sy'n mynychu'r coleg fel rhan o'u rhaglen addysg statudol. Fel aelod allweddol o'r tîm Prentisiaethau Iau, byddwch yn darparu gofal bugeiliol, arweiniad a mentora o ansawdd uchel, gan rymuso dysgwyr i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni canlyniadau llwyddiannus.
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i greadigrwydd, arloesedd a rhagoriaeth. Gan weithio'n agos gyda thimau cwricwlwm, byddwch yn helpu i feithrin amgylchedd diogel, strwythuredig a chefnogol lle gall dysgwyr ifanc ffynnu'n bersonol ac yn academaidd.
Fel Anogwr Prentisiaethau Iau, byddwch yn darparu cymorth bugeiliol a chefnogaeth yn y dosbarth i ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglenni Prentisiaethau Iau gan gynnwys:
- Adeiladu
Byddwch hefyd yn hwyluso gweithgareddau datblygiad personol, cyfleoedd cyfoethogi, sesiynau llesiant gweithredol, ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Mae hon yn rôl arbenigol o fewn fframwaith addysg orfodol. Mae dysgwyr yn aros ar gofrestr eu hysgolion ac yn mynychu'r coleg fel rhan o raglen statudol. Mae'r swydd yn cynnwys cyfrifoldebau ychwanegol sy'n ymwneud â diogelu, presenoldeb, rheoli ymddygiad ac ymgysylltiad dysgwyr.
Byddwch yn cydweithio â staff cwricwlwm, darlithwyr Prentisiaethau Iau, ysgolion, rhieni/gwarcheidwaid, a'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn cymorth cydlynol a chyfannol. Mae'r rôl yn ganolog mewn ymyrraeth gynnar, monitro presenoldeb, cefnogi ymddygiad, cyflawni datblygiad personol, a chynllunio pontio.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/219/26
Cyflog
£29,878 - £32,423 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
09 Meh 2026
12:00 YH(Ganol dydd)