MANYLION.
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 05 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Cymraeg (Lefel UG / Safon Uwch), Cyfnod Mamolaeth (blwyddyn academaidd 2026/27)

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd

Mae ein canolfannau Chweched Dosbarth yn cynnig addysg o'r safon uchaf.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'r tîm i addysgu i safon uchel a galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae ein colegau'n rhan o gynllun Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru a gynlluniwyd i gefnogi'r rhai mwyaf galluog i wireddu eu potensial academaidd yn llawn ac i symud ymlaen i'r Prifysgolion gorau.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddianus fod yn addysgu ar gampws Pwllheli ar ddydd Llun, Mawrth a Mercher a champws Dolgellau ar ddydd Iau a Gwener.

Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y pwnc sy'n edrych i gymryd eu camau cyntaf i addysg. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a darparu cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus sy'n hyrwyddo llwyddiant dysgwyr. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i ddysgwyr.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i

gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.




Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/218/26

Cyflog
£33,595 - £51,931 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau
  • Pwllheli

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.

Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
05 Meh 2026
12:00 YH(Ganol dydd)