MANYLION.
  • Lleoliad: Rhyl,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,479 - £35,721 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol (Peirianneg a Thechnolegau Adnewyddadwy)

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £33,479 - £35,721 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y Swydd

O dan arweiniad a chyfarwyddyd cyffredinol y staff darlithio bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn cynnal sesiynau ymarferol mewn gweithdai i grwpiau o ddysgwyr, a bydd yn cynorthwyo darlithwyr trwy olrhain ac asesu cynnydd y dysgwyr, gan roi arweiniad a chefnogaeth yn ôl yr angen.

Ble byddwch chi'n gweithio: Y Ganolfan Peirianneg a Thechnolegau Adnewyddadwy newydd ar gampws y Rhyl

Mae adran Beirianneg Coleg Llandrillo yn ganolfan flaenllaw ar gyfer hyfforddiant ynni gwynt, gan ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar y genhedlaeth nesaf o dechnegwyr ar gyfer y sector ar y tir ac ar y môr . Fel rhan o'r tîm cymorth proffesiynol, byddwch yn allweddol wrth gynnal amgylchedd ddysgu o'r radd flaenaf sy'n cyd-fynd â safonau GWO (Global Wind Organisation) gan sicrhau bod ein prentisiaid yn bodloni'r meincnodau diogelwch a'r meincnodau technegol llym sy'n ofynnol gan y diwydiant.

Ysgogi Llwyddiant ym maes Ynni Adnewyddadwy
Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno ein rhaglenni Nawdd a Phrentisiaeth Technegwyr Tyrbinau Gwynt. Byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn adran sydd nid yn unig yn pontio'r bwlch rhwng addysg a diwydiant ond sydd hefyd yn arwain yn y gystadleuaeth sgiliau Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd eich cefnogaeth yn galluogi dysgwyr i feistroli llwybrau hanfodol, gan gynnwys:
  • Cydymffurfiaeth GWO:Cynorthwyo i gydlynu hyfforddiant diogelwch a hyfforddiant technegol safonol y diwydiant.

Cynnal a Chadw Arbenigol:Cefnogi dysgu ymarferol mewn systemau tyrbin mecanyddol, trydanol ac electronig.
  • Technoleg y Dyfodol:Hwyluso ymgysylltiad y myfyrwyr â Diwydiant 4.0, gan gynnwys efelychiadau realiti rhithwir a realiti estynedig (VR/AR) o amgylcheddau 'nacelle'.

Ein Cyfleusterau
Byddwch wedi'ch lleoli mewn adeilad tri llawr, 2,886m², o'r radd flaenaf-buddsoddiad o £2 filiwn yn nyfodol peirianneg. Mae ar yr amgylchedd gwych hwn angen cefnogaeth broffesiynol ragweithiol i reoli ei ystod amrywiol o fannau arbenigol, gan gynnwys:
  • Labordai Gwynt ac Ynni Adnewyddadwy: Mannau pwrpasol ar gyfer electroneg, PLCs ac egwyddorion mecanyddol sy'n benodol i dyrbinau.

Gweithgynhyrchu Uwch:Gweithdai CNC a labordai prototeipio 3D (CAD/CAM).

Arloesi Digidol: Roboteg arloesol a phecynnau Diwydiant 4.0 wedi'u cynllunio i efelychu ffermydd gwynt "Clyfar" modern.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/217/26

Cyflog
£33,479 - £35,721 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Y Rhyl

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
04 Meh 2026
12:00 YH(Ganol dydd)