MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £25,949 - £29,069 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,949 - £29,069 / blwyddyn
Technegydd mewn AdeiladuApplication Deadline: 29 May 2026
Department: Adeiladu
Employment Type: Parhaol - Llawn Amser
Location: Campws Rhydaman
Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm
Compensation: £25,949 - £29,069 / blwyddyn
DescriptionMae Coleg Sir Gâr yn chwilio am Dechnegydd mewn Adeiladu brwdfrydig a medrus i ymuno â'n Maes Cwricwlwm Adeiladu ar ein Campws yn Rhydaman.
Dyma gyfle cyffrous i ddod yn rhan o adran ddeinamig â chysylltiadau â'r diwydiant, sy'n darparu addysg a hyfforddiant adeiladu o ansawdd uchel ar draws crefftau adeiladu, gwasanaethau adeiladu, adeiladu technegol, a rhaglenni addysg uwch.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd â phrofiad ymarferol yn y diwydiant adeiladu, sgiliau technegol cryf, ac ymrwymiad i gefnogi addysgu a dysgu rhagorol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 2/3 o leiaf mewn crefftau Adeiladu neu faes perthnasol, profiad yn y diwydiant ac angerdd am ddysgu a datblygu. Yn y rôl hon byddwch yn bennaf yn cefnogi tîm Adeiladu a Phlymio Gwasanaethau Adeiladu ond bydd disgwyl hefyd i chi gyfrannu at yr holl ofynion cymorth technegol o fewn y Maes Cwricwlwm.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ddarparu cefnogaeth a chymorth technegol ar gyfer gwaith dysgu ac addysgu o fewn eich maes, gan ymateb i anghenion myfyrwyr, staff academaidd a'r arweinydd (arweinwyr) cwrs perthnasol
- Cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch
- Paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs
- Cynnal a chadw, uwchraddio a gwasanaethu cyfarpar yn ôl y bwriad, y gofyn neu ar gais peiriannau coed a pheiriannau a chyfarpar statig a chludadwy eraill yn ymwneud ag adeiladu. Derbyn hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen
- Sicrhau bod cyfarpar cwrs, deunyddiau a stoc yn derbyn y gofal priodol a'u bod yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u cadw a'u diogelu
- Cadw stocrestr stordai ar gyfer nwyddau traul, cyfarpar ac adnoddau cyflwyno
- Mynd ati i archebu stoc yn unol â gweithdrefnau ariannol y coleg a diweddaru'r gronfa ddata archebu ar-lein
- Darparu gwasanaeth cyflenwi o'r stordai ar gyfer nwyddau traul y cwrs a gwasanaeth benthyca a dychwelyd ar gyfer yr holl gyfarpar adrannol ac eitemau cwrs eraill
- Cymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm y cwrs; pwyllgorau ymgynghorol myfyrwyr; a chyfarfodydd y maes cwricwlwm yn ôl y gofyn
- Cyflawni dyletswyddau sy'n cefnogi gwaith marchnata a hyrwyddo rhaglen y cwrs;
- Cynorthwyo darlithwyr a myfyrwyr wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau mewn gweithdy, yn unol ag amserlen y cytunwyd arni
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- O leiaf Cymhwyster Lefel 2/3 mewn Galwedigaethau Coed
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
- Profiad diweddar a pherthnasol o'r maes/meysydd technegol dan sylw
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Y gallu i weithio'n hyblyg
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- IOSH Rheoli'n Ddiogel (Os nad oes gennych gymhwyster IOSH, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
- PUWER Hyfforddiant (Os nad oes gennych gymhwyster PUWER, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
- Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol mewn Addysg Bellach
- Bod yn gymwys wrth ddefnyddio a chynnal a chadw peiriannau ac offer sefydlog a chludadwy sy'n gysylltiedig ag arferion Adeiladu/Plymio cyffredinol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein