MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5BF
  • Testun:
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £18,689 - £21,030
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2021 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth

Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth

Coleg Caerdydd a'r Fro
Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth (Arholiadau)
Contract: Amser llawn (37 awr), parhaol
Lleoliad: Caerdydd / Y Fro
Cyflog: £18,689 - £21,030 y flwyddyn

Mae cyfle cyffrous gennym ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn y Tîm Arholiadau yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Byddwch yn adrodd wrth Arweinydd y Tîm Arholiadau a’r Rheolwr Arholiadau ac yn gyfrifol am roi cymorth i bob elfen o’r adran gan gynnwys y canlynol:

• Ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol swyddfa, gan gynnwys mewnbynnu data, ymrestru myfyrwyr ac ymholiadau cyffredinol oddi wrth y staff a’r myfyrwyr
• Sicrhau y caiff cofrestriadau, ceisiadau arholiadau a chanlyniadau’r dysgwyr eu prosesu yn unol â dyddiadau cau’r cyrff dyfarnu a’u cofnodi’n gywir ar y system ganolog
• Amserlennu’r arholiadau ar-lein a sicrhau bod enwau’r ymgeiswyr gyda’r cyrff dyfarnu allanol
• Arolygu arholiadau
• Sganio, ffeilio a phrosesu tystysgrifau
• Ymdrin ag ymholiadau mewnol ac allanol ynglŷn â chofrestru, canlyniadau a thystysgrifau

Bydd cefndir addysgol sicr gan yr ymgeisydd llwyddiannus, profiad TG da mewn Microsoft Office a phrofiad cyfatebol amlwg mewn rôl weinyddol.

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar bob safle yn y Coleg, yn amodol ar ofynion busnes.

Mae rhagor o fanylion ynglŷn â’r rôl, manyleb y person a chymwyseddau’r swydd ar gael yn y disgrifiad swydd atodedig.

JOB REQUIREMENTS
2. Manyleb y Person :
2.1 Cymwysterau:

• Cefndir addysgol sicr (Lefel 2 neu’n uwch) neu brofiad cymesur amlwg
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

2.2 Sgiliau, Gwybodaeth ac Arbenigedd Hanfodol:

• Gwybodaeth ardderchog o fewn y maes penodol a nodir isod;
• Record lwyddiannus o weithio o fewn y maes hwn;
• Record lwyddiannus o gyflawni o fewn y sector addysg bellach a’r heriau cyfredol / yr heriau sy’n dod a fydd yn gysylltiedig â’r maes;
• Y gallu i gyfathrebu materion cymhleth i ystod eang o gynulleidfaoedd;
• Y gallu i weithio ar draws y coleg;
• Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu ardderchog yn ysgrifenedig ac ar lafar.

2.3. Rhinweddau, Ymddygiad a Gwerthoedd Personal – Cymwyseddau Craidd:

• Yn frwd iawn dros y genhadaeth – yn asiant newid effeithiol;
• Chwaraewr tîm a fydd yn barod i ymgynghori ac i adeiladu perthnasoedd – sgiliau rhyngbersonol effeithiol;
• Cyflawnwr rhagoriaeth dyfeisgar sy’n gallu meddwl yn annibynnol – creadigol a rhagoriaeth;
• Yn benderfynol o fynnu atebion – yn canolbwyntio ar ddatrys problemau
• Arweinydd sy’n gallu ysbrydoli – ymddygiad sy’n esiampl o ran arweinyddiaeth;
• Yn ymddwyn mewn ffordd gytbwys, resymol a chorfforaethol – proffesiynol, arfer cyfrinachedd.