MANYLION.
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £23.58 - £43.13 / awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Achlysurol mewn Busnes

Coleg Sir Gar

Cyflog: £23.58 - £43.13 / awr

Darlithydd Achlysurol mewn Busnes
Application Deadline: 3 June 2026

Department: Busnes

Employment Type: Dim Oriau

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Deon Cyfadran - GELA

Compensation: £23.58 - £43.13 / awr

DescriptionMae'r maes Cyfadran yn bwriadu penodi darlithydd blaengar, dynamig sydd â'r weledigaeth a'r ysfa i ehangu cyfeiriad y ddarpariaeth busnes a rheolaeth yng Ngholeg Sir Gâr|Coleg Ceredigion yn y dyfodol.Gan ymgymryd â'r gwaith o gynllunio a chyflwyno cwricwlwm ILM Lefel 2 - Lefel 7, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn paratoi deunyddiau dysgu, yn asesu gwaith dysgwyr, yn monitro cynnydd ac yn cyfrannu at y gwaith o sicrhau ansawdd y ddarpariaeth.

Rydym yn chwilio am ddarlithydd ILM brwdfrydig a phenderfynol a fydd yn ennyn diddordeb dysgwyr yn y pwnc ac yn eu paratoi ar gyfer asesu. Mae gradd mewn Busnes neu bwnc cysylltiedig yn hanfodol. Byddai ymgeiswyr sydd â phrofiad o addysgu dysgwyr sy'n oedolion mewn lleoliadau tebyg ac sydd â statws athro cymwys yn cael eu ffafrio.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ymgymryd â'r gwaith o gynllunio, addysgu, asesu a chydlynu cymwysterau ILM Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 2-7
  • Ymgymryd â dyletswyddau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon, e.e. sicrhau ansawdd, ysgrifennu
  • Rhaglen Ddysgu/Adolygiad Rhaglen Blynyddol, gofynion dilysu, ac ati
  • Cwblhau cymhwyster dilysydd o fewn blwyddyn i gael eich penodi (os nad ydych yn gymwys
    eisoes)
  • Cymryd rôl fel Tiwtor Cwrs os yw'n briodol
  • Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno cyrsiau newydd a chreu diwylliant o arloesi

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Gradd neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
  • Cymhwyster perthnasol cyfatebol MA/Lefel 7
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
  • Sgiliau llythrennedd/rhifedd/llythrennedd digidol da
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg

Dymunol:

  • Profiad addysgu perthnasol
  • Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc

Yr Iaith Gymraeg:

  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein