MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 28 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Dros Dro Athro/Athrawes Cynnal Dysgu (ACEY) yn Ysgol y Cefn.
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002372 Dyddiad postio 13/05/2026 Dyddiad cau ceisiadau 28/05/2026 Cyflog Graddfa Cyflog Athrawon Oriau gwaith 32.5 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil JD Teacher SEBD Cefn Primary 2026.docx SEDB - JD - Welsh.doc
Dros Dro Athro/Athrawes Cynnal Dysgu (ACEY) yn Ysgol y Cefn.
Disgrifiad Swydd
Dros Dro Athro/Athrawes Cynnal Dysgu (Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol) yn Ysgol y Cefn.
Oriau: 32.5
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Math o gontract: Dros dro (mamolaeth)
Dyddiad Dechrau: Medi 2026
Hoffai Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf benodi athro/athrawes â appoint cymwysterau priodol sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn dosbarth cymorth dysgu, a fydd yn cefnogi ac yn addysgu disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol wedi'u lleoli ynYsgol y Cefn i ddechrau ym mis Medi 2026.
Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i 8 o ddisgyblion 7-11 oed.
Mae'r ddarpariaeth yma'n rhoi cymorth i ddisgyblion ag ystod o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd y dosbarth yn cael ei staffio gan athro a 2 Gynorthwy-ydd Cynnal/Cymorth Dysgu sy'n cynorthwyo â gweithgareddau dysgu a chynhwysiant y disgyblion yn y brif ffrwd. Yn ddelfrydol, bydd gyda'r ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag ADY, gan gynnwys Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol. Bydd wedi ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol arbenigol perthnasol yn unol â gofynion yr Awdurdod Lleol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Michael Condon yng Nghanolfan Menter y Cymoedd, Abercynon, Aberpennar, CF45 4SN neu ffonio 01443 744333.
Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn Ysgol Gynradd Cefn, a bydd yn adleoli i Ysgol Gynradd Glyn-coch pan fydd yr ysgol yn agor.
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, dylech chi ymgeisio am y swydd gan ddefnyddio eich cyfrif hunanwasanaeth gweithwyr, nid y ddolen isod. Os ydych chi'n wynebu unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich Cyfrif Hunanwasanaeth Gweithwyr, cysylltwch â Charfan Gweinyddu iTrent drwy ffonio 01443 680760 neu e-bostio: itrentadmin@rctcbc.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 28/05/2026.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.