MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham, All Wales, LL12 1EQ
  • Pwnc: Staff Cyflogadwyedd
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Misol
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 25 Mai, 2026 11:59 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rydym yn recriwtio Cymraeg Hanfodol Anogydd Cyflogadwyedd

Gyrfa Cymru
Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yr un mor gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar neu wyneb-yn-wyneb ag ydynt yn defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru’n Gweithio.

Anogydd Cyflogadwyedd, Cymraeg Hanfodol - Swydd llawn amser yng Nghanolfan Gyrfa Wrecsam, 37 awr yr wythnos/llawn amser Dydd Llun-Dydd Gwener.

Dylai ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon feddu ar sgiliau iaith Gymraeg lefel Ganolradd o leiaf.

Cyflog £26,276 - £28,256. Cyflog Cychwynnol £26,276

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith ac oedolion sy’n awyddus i newid eu gyrfa.

Mae ein Anogydd Cyflogadwyedd
• yn cefnogi ac ysbrydoli eu cleientiaid i sicrhau’r yrfa orau bosibl sydd ar gael iddynt;
• yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;
• yn darparu cymorth cyflogadwyedd (cymorth gyda chreu CV, gweithgareddau chwilio am swyddi ayb)i’r rhai sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith neu newid swyddi;
• yn helpu cleientiaid i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol cynaliadwy (addysg, hyfforddiant, cyflogaeth).

Er mai Wrecsam fydd y lleoliad canolog ar gyfer y rôl hon, disgwylir i ddeiliad y swydd weithio yn achlysurol yng Nghanolfan Gyrfa Queensferry yn Sir y Fflint.

Dylai ymgeiswyr fod wedi’u haddysgu i safon Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig e.e. cyngor a chyfarwyddyd, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych Ddiploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfa eisoes, byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnoch i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn.

Disgrifiadau o Lefel Sgiliau Iaith Cymraeg

Canolradd: Byddwch yn gallu deall a chyfarthrebu’n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau diddorol, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml a chynhyrchu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi’u strwythuro’n dda i rannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau, neu drefnu gweithgareddau.

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fwy o fanylion. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn ar 25/05/26.

Bydd y broses ddethol ar ffurf asesiadau a chyfweliad a gynhelir yn ddigidol drwy Microsoft Teams. Cynhelir yr asesiadau ar 08/06/26 a chynhelir y cyfweliadau ar 09/06/26.

Er gwybodaeth, nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV .

Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg a gweithio’n ystwyth, 31 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.

JOB REQUIREMENTS
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://apply.careerswales.gov.wales/cy/jobs/7730483-anogydd-cyflogadwyedd-dyddiad-cau-25-05-26