MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £26,387 - £48,288 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £26,387 - £48,288 / blwyddyn
Darlithydd Sgiliau Hanfodol 0.5Application Deadline: 29 May 2026
Department: Sgiliau
Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser
Location: Campws Rhydaman
Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm
Compensation: £26,387 - £48,288 / blwyddyn
DescriptionMae'r penodiad hwn ar gyfer Darlithydd Sgiliau Hanfodol. Rydym yn chwilio am athrawes/athro brwdfrydig a phenderfynol i sicrhau bod dysgwyr yn dangos ymrwymiad i'r meysydd hyn ac yn barod iawn i gael eu hasesu, gan ddefnyddio tasgau gwahaniaethol a strategaethau arbenigol, fel y bo'n briodol, i ysgogi a chynnal diddordeb, ac i ddatblygu hyder a hunanbarch y dysgwyr.
Os ydych yn chwilio am her yn eich gyrfa, mae'r cyfle hwn yn addo bod yn werthfawr a boddhaus. Yn y rôl hon byddwch yn dysgu ac yn cefnogi ystod amrywiol o bobl ifanc ac oedolion, i'w galluogi i gyflawni cam nesaf eu gyrfa neu eu dyheadau addysgol.
Bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu neilltuol ynghyd â'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith heriol.
Bydd y darlithydd Sgiliau Hanfodol llwyddiannus a benodir yn cefnogi dysgwyr sy'n dilyn ystod eang o gyrsiau Addysg Bellach yn y coleg, i sicrhau bod ganddynt y sgiliau priodol i lwyddo yn eu dysgu.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ymgymryd ag addysgu, asesu a dilysu cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn fewnol. (Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu)
- Cysylltu â chydlynwyr Pennaeth Dysgu Gydol Oes y coleg i sicrhau yr ymgymerir â gweithdrefnau Dilysu Mewnol Sicrhau Ansawdd mewn modd priodol ac amserol
- Sicrhau bod yr holl Gymwysterau Sgiliau Hanfodol a gwblhawyd yn llwyddiannus yn cael eu hawlio mewn modd amserol
- Adrodd wrth y Pennaeth Dysgu Gydol Oes ynghylch cynnydd a chwblhad.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfwerth
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
- Sgiliau llythrennedd/rhifedd/llythrennedd digidol da
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
Dymunol:
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
Yr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein