MANYLION.
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £26,387 - £48,288 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 29 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Sgiliau Hanfodol (Cymhwyso Rhif a Sgiliau Chyfathrebu - Mynediad-L2)

Coleg Sir Gar

Cyflog: £26,387 - £48,288 / blwyddyn

Darlithydd Sgiliau Hanfodol (Cymhwyso Rhif a Sgiliau Chyfathrebu - Mynediad-L2)
Application Deadline: 29 May 2026

Department: Sgiliau

Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm

Compensation: £26,387 - £48,288 / blwyddyn

DescriptionMae'r penodiad hwn ar gyfer Darlithydd Sgiliau Hanfodol. Rydym yn chwilio am athrawes/athro brwdfrydig a phenderfynol i sicrhau bod dysgwyr yn dangos ymrwymiad i'r meysydd hyn ac yn barod iawn i gael eu hasesu, gan ddefnyddio tasgau gwahaniaethol a strategaethau arbenigol, fel y bo'n briodol, i ysgogi a chynnal diddordeb, ac i ddatblygu hyder a hunanbarch y dysgwyr.

Os ydych yn chwilio am her yn eich gyrfa, mae'r cyfle hwn yn addo bod yn werthfawr a boddhaus. Yn y rôl hon byddwch yn dysgu ac yn cefnogi ystod amrywiol o bobl ifanc ac oedolion, i'w galluogi i gyflawni cam nesaf eu gyrfa neu eu dyheadau addysgol.

Bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu neilltuol ynghyd â'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith heriol.

Bydd y darlithydd Sgiliau Hanfodol llwyddiannus a benodir yn cefnogi dysgwyr sy'n dilyn ystod eang o gyrsiau Addysg Bellach yn y coleg, i sicrhau bod ganddynt y sgiliau priodol i lwyddo yn eu dysgu.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ymgymryd ag addysgu, asesu a dilysu cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn fewnol. (Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu)
  • Cysylltu â chydlynwyr Pennaeth Dysgu Gydol Oes y coleg i sicrhau yr ymgymerir â gweithdrefnau Dilysu Mewnol Sicrhau Ansawdd mewn modd priodol ac amserol
  • Sicrhau bod yr holl Gymwysterau Sgiliau Hanfodol a gwblhawyd yn llwyddiannus yn cael eu hawlio mewn modd amserol
  • Adrodd wrth y Pennaeth Dysgu Gydol Oes ynghylch cynnydd a chwblhad.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Gradd neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
  • Sgiliau llythrennedd/rhifedd/llythrennedd digidol da
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg

Dymunol:

  • Profiad addysgu perthnasol
  • Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc

Yr Iaith Gymraeg:

  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein