MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Grade 6 - £28,142 - £31,022
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 28 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 6 - £28,142 - £31,022
Mae hon yn swydd cyfnod penodol am 37 awr yr wythnos tan 31/03/2027Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith a Mwy sy'n mynd i'r afael â thlodi drwy gyflogaeth gynaliadwy gan ddarparu mentora, ymyriadau a chymorth cyflogaeth dwys. Bydd Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu gwasanaethau mentora a chymorth cyflogaeth dwys mewn cymunedau ledled Cymru.
Byddwch yn cefnogi llwyth achosion o gyfranogwyr y nodwyd eu bod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau o dan y rhaglen, gan ddatblygu a gweithredu eu cynlluniau gweithredu, mynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a sicrhau cyflogaeth wrth fynd ati i hyrwyddo gwasanaethau'r rhaglen i ystod eang o randdeiliaid. Byddwch yn grymuso, yn ysgogi ac yn cefnogi cyfranogwyr i gael cyflogaeth, ac yn bwysicaf oll, i barhau mewn cyflogaeth, yn ogystal â chefnogi cyfranogwyr i symud ymlaen tra'u bod yn y gwaith.
Byddwch yn darparu gwasanaeth hyblyg o ansawdd uchel, a bydd disgwyl i chi weithio fel rhan o dîm integredig. Byddwch yn cefnogi mynychwyr trwy ddull mentora a hyfforddi sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn mynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth (sy'n deillio o dlodi ac anweithgarwch hirdymor), gan ddarparu ymyriadau ar sail allgymorth, a chefnogi cyfranogwyr yn y gymuned.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.