MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,596 - £51,932
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 25 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,596 - £51,932
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn Amser (37 awr yr wythnos), Parhaol
Cyflog: £33,596 - £51,932 (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Raddfa Dâl Uwch).
Barod i ddod â'ch arbenigedd o'r byd go iawn i'r ystafell ddosbarth a siapio dyfodol y sector gofal?
Mae Coleg Cambria yn chwilio am ymarferwyr ac addysgwyr angerddol i ymuno â'n tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel Darlithydd. P'un ai eich bod chi'n athro/athrawes brofiadol neu'n weithiwr proffesiynol pwrpasol iechyd a gofal cymdeithasol sy'n awyddus i symud ymlaen i Addysg Bellach, rydyn ni'n cynnig amgylchedd cefnogol lle mae eich profiad o'r diwydiant yn trosi'n uniongyrchol i lwyddiant myfyrwyr.
Gwybodaeth Am y Swydd
Fel darlithydd, byddwch chi'n pontio arferion o'r bywyd go iawn ac astudio academaidd, gan arwain myfyrwyr drwy gymwysterau Lefel 2 a Lefel 3. Byddwch chi'n cyflwyno sesiynau ymarferol ac yn yr ystafell ddosbarth, yn mentora dysgwyr ac yn adeiladu partneriaethau gyda chyflogwyr gofal iechyd lleol. Mae swyddogaethau allweddol yn cynnwys:
- Cynllunio a chyflwyno deunyddiau dysgu deniadol, marcio asesiadau, ac olrhain cynnydd myfyrwyr.
- Bod yn Diwtor Personol i roi arweiniad, anogaeth, a chymorth academaidd unigol.
- Arwain myfyrwyr, darparu hyfforddiant wedi'i dargedu, a sicrhau safonau ansawdd uchel.
- Partneru â chyflogwyr, noddwyr, a thimau mewnol i gyfoethogi darpariaeth cyrsiau.
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol.
- Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407).
- Yn gallu nodi, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i ymarfer.
- Sgiliau llythrennedd digidol cymwys.
- Yn gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu.
"Rydym wedi ymrwymo i dyfu ein darpariaeth a'n gwasanaeth dwyieithog, ac er bod y gallu i weithio yn y Gymraeg yn rhan allweddol o'n nodau, rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n frwdfrydig dros ddatblygu'r sgiliau hyn yn y swydd. Os oes gennych chi angerdd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac awydd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, rydym yn eich annog i wneud cais gwaeth beth fo'ch rhuglder yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Nod Coleg Cambria yw hyrwyddo a gwreiddio'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn weithredol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogaeth i'n cydweithwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys cyrchu cynlluniau hyfforddiant Cymraeg wedi'u teilwra yn ogystal â thaliadau cymhelliant am ddarpariaeth a gwasanaethau dwyieithog."
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig