MANYLION.
  • Lleoliad: Swansea,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

YGG Gellionnen: Temporary Teacher

Cyngor Abertawe
Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen
Heol Gellionnen
Clydach
SA6 6SY

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen yn chwilio am athro/athrawes ysbrydoledig, ymroddedig ac ymrwymedig i ymuno â'n tîm cefnogol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig ddatblygu ei ymarfer mewn amgylchedd cadarnhaol a chydweithredol.

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl, gan sicrhau cynnydd cadarn a meithrin hyder a sgiliau iaith cryf yn y Gymraeg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • ymarferydd effeithiol sy'n ymrwymedig i godi safonau a chynnydd disgyblion;
  • yn frwd dros addysg Gymraeg;
  • meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr;
  • gallu creu amgylchedd dysgu cadarnhaol, diogel a chefnogol;
  • defnyddio asesu i gefnogi cynnydd disgyblion;
  • datblygu sgiliau iaith disgyblion yn effeithiol, gan gynnwys eirfa a hyder yn y Gymraeg;
  • gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm;
  • dangos ymrwymiad i welliant ysgol a datblygiad proffesiynol;

Rydym yn cynnig:
  • amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar;
  • cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel;
  • cefnogaeth gadarn i ddatblygiad gyrfa;
  • disgyblion hapus, brwdfrydig a staff ymroddedig;
  • diwylliant ysgol cadarnhaol sy'n rhoi pwyslais ar les a chynnydd pob disgybl;

Manylion y broses:
Dyddiad cau: 1/6/26
Arsylwadau gwersi a cyfweliadau: w/c 8/6/26

Temporary Teacher - YGG Gellionnen - Job description ( PDF, 175 KB )

Temporary Teacher - YGG Gellionnen - Job Profile ( PDF, 3 MB )

Application form - primary, secondary, special teachers ( Word doc, 117 KB )

Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gyflwyno gwers fel rhan o'r broses benodi.

Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swyddi neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, gofynnir i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â'r pennaeth gweithredol ar 01792 845489.

Gofynnir i ymgeiswyr danfon llythyr cais a ffurflen gais wedi'i chwblhau at y Pennaeth Gweithredol, Ms. N Owen, [email protected]

Mae manylion pellach a disgrifiad swydd ar gael drwy'r ddolen swyddi.

Rydym yn ymrwymo i ddiogelu lles plant ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymroddiad hwn. Mae angen gwiriad manylach gan y GDG ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Last modified on 11 May 2026

Is this page useful? No Report a problem with this page
// This will stay here var feedbackOptions = { showYes: true, showProblem: true, positiveText: "Yes", feedbackQuestion: "Is this page useful?", feedbackText: "Thank you for your feedback", contentArticleId: 45900 }; gi.feedback(feedbackOptions);