MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, Bridgend, CF31 3DF
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £21,135.00 - £41,597.00
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Darlithydd Busnes a delir yn ôl yr awr

Darlithydd Busnes a delir yn ôl yr awr

Coleg Penybont
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm cwricwlwm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont. Fel darlithydd, byddwch yn cynllunio, yn datblygu, yn gwerthuso ac yn cyflwyno cynnwys cwricwlaidd rhaglenni dysgu yn effeithiol ac yn effeithlon ar ein darpariaeth cwricwlwm busnes.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar ddealltwriaeth glir o safonau cymhwysterau busnes AB ac AU o Lefel 1 i Lefel 6, profiad o addysgu a chyflwyno Lefel 1 i Lefel 3, a chofnod profedig o ddatblygu a threfnu deunyddiau sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae gradd Meistr neu brofiad masnachol sylweddol yn ddymunol. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, byddwch yn gallu ysgogi dysgwyr o bob oed a chefndir.
Noder, mae hwn yn gontract a delir yn ôl yr awr sy'n golygu na ellir gwarantu diwrnodau ac oriau penodol - cânt eu cynnig ar sail achlysurol, ad hoc i weddu i anghenion y gwasanaeth ac felly gallant amrywio.
Os teimlwch y gallech gyfrannu at yr addysgu a'r dysgu o fewn y maes hwn, rydym am glywed wrthoch chi! Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth swydd isod:

Pecyn Gwybodaeth Swydd