MANYLION.
  • Lleoliad: Swansea,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 22 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

YGG Bryniago: Teaching assistant Level 3

Cyngor Abertawe
YGG Bryniago
Stryd Iago Isaf
Pontarddulais
Abertawe
SA4 8JA
Ffôn: 01792 882012
Website: www.ysgolbryniago.co.uk

Ysgol gynradd benodedig Gymraeg yw Ysgol Bryniago. Mae'n gwasanaethu tref Pontarddulais a phentrefi Garnswllt, Pontlliw a Waungron. Mae'n darparu ar gyfer disgyblion rhwng 3- 11 mlwydd oed.

Gwahoddir ceisiadau gan gynorthwywyr brwdfrydig ac ymroddgar . Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddianus feddu ar y Gymraeg a bod yn barod i weithio fel rhan o dîm yr ysgol.

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan unigolion brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol i ymgymryd â rôl Cynorthydd Dysgu Lefel 3 yn ein hysgol.

Bydd y rôl yn cynnwys:
  • Cefnogi dysgwyr 3-7 oed ar draws y cwricwlwm
  • Cydweithio'n agos ag athrawon ac aelodau eraill o'r tîm
  • Cyfrannu at gyflwyno profiadau dysgu o ansawdd uchel
  • Derbyn cyfrifoldeb dosbarth ar adegau penodol
  • Cefnogi lles, datblygiad a chynnydd disgyblion

Gan mai ysgol Gymraeg yw Bryniago, mae sgiliau Cymraeg llafar a ysgrifenedig ardderchog yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
  • Â sgiliau rhyngbersonol rhagorol
  • Yn frwdfrydig ac yn gallu ysbrydoli dysgwyr ifanc
  • Yn meddu ar y gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm proffesiynol
  • Yn hyderus wrth gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Yn barod i gyfrannu'n gadarnhaol at ethos a bywyd yr ysgol

Os oes gyda chi ddiddordeb yn y swydd yma gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r ffurflen gais sydd wedi atodi isod, yn ogystal â llythyr byr yn amlygu eich cryfderau, eich doniau a'ch profiad a'u danfon at [email protected]

Application form - school-based support staff ( Word doc, 134 KB )

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago - Teaching Assistant Level 3 - Job Description ( PDF, 296 KB )

Disgwylir i'r llythyron cais fod yn y Gymraeg.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 22.05.2026 (ganol dydd)

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar: I'w gadarnhau

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod a fydd yn dechrau : Medi 2026

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Uwch y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Mae'r swydd uchod ar gyfer cynorthwyydd dosbarth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago (ysgol cyfrwng Cymraeg) y mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol iddi.

Yng Nghyngor Abertawe, mae egwyddor "Diogelu yw Busnes i Bawb," ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Last modified on 01 May 2026

Is this page useful? No Report a problem with this page
// This will stay here var feedbackOptions = { showYes: true, showProblem: true, positiveText: "Yes", feedbackQuestion: "Is this page useful?", feedbackText: "Thank you for your feedback", contentArticleId: 45764 }; gi.feedback(feedbackOptions);