MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Abertyleri,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: MPS2 - UPS3 - £33,731 - £51,942 Y Flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: MPS2 - UPS3 - £33,731 - £51,942 Y Flwyddyn
Agorodd Ysgol Gymraeg Bro Helyg ei drysau i staff, disgyblion a rhieni ar 3 Medi 2010. Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar stad ddiwydiannol rhwng Nant-y-glo a Blaenau.Agorodd Ysgol Gymraeg Tredegar ym mis Tachwedd 2025 fel ysgol ffrwythlyn newydd sy'n gysylltiedig ag Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar Ffordd y Siartwyr, Tredegar.
Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol ymroddedig sy'n rhannu ein gweledigaeth o ddarparu addysg Gymraeg o ansawdd uchel, gan feithrin cymuned ysgol gadarn, gefnogol a chynhwysol.
Yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Gymraeg Tredegar, anelwn at ddarparu'r cyfle - drwy gyfrwng y Gymraeg - i'n disgyblion ddatblygu'n unigolion cyfrifol a hyderus, gan alluogi iddynt chwarae rhan gadarnhaol ac adeiladol mewn cymdeithas.
Ein datganiad cenhadaeth, "Gosod sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol disglair", yw sail pob penderfyniad a wneir yn yr ysgol, gyda'r nod o sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn yr addysg orau bosibl.
Anelwn at sicrhau bod ein disgyblion yn dod yn rhugl yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, fel y gallant wneud cyfraniad gweithredol a llawn i fywyd cymdeithasol a diwydiannol ein cymdeithas ddwyieithog.
Mae'r ddwy ysgol yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a theuluol, gyda staff ymroddedig sy'n meithrin ethos cadarnhaol, ofalgar a chefnogol.
Mae'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi ymarferydd cynradd brwdfrydig, creadigol ac ymroddedig i ymuno â thîm Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Gymraeg Tredegar.
Yn ystod y broses recriwtio, cynhelir sgrinio trylwyr cyn cyflogi, a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad DBS.
Mae angen i ymgeiswyr anfon ffurflen gais at y Pennaeth, Miss J. Wardill trwy'r cyfeiriad e-bost: Ysgolbrohelyg@bgcbcschools.wales
Dyddiad cau: 01.06.2026
Cyfweliadau: W/D 08.06.2026