MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed, Bridgend, CF35 5LG
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 23 August, 2021
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,135 - £41,597
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2021 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Cyfrifiadura / Seiberddiogelwch (0.8 cyfwerth ag amser llawn)

Darlithydd Cyfrifiadura / Seiberddiogelwch (0.8 cyfwerth ag amser llawn)

Coleg Penybont
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm cwricwlwm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont. Fel darlithydd seiberddiogelwch, byddwch yn cynllunio, yn datblygu, yn gwerthuso ac yn cyflwyno cynnwys cwricwlwm yn effeithiol ac yn effeithlon. Byddwch yn gyrru blaengaredd newydd sbon Coleg Seiber Cymru ac yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid diwydiannol Admiral, Thales a Fujitsu i gyflawni cymhwyster cyffrous, perthnasol i ddiwydiant, mewn seiberddiogelwch.

Mae cefndir profedig mewn seiberddiogelwch ac o brosiectau diwydiant sy'n gysylltiedig â seiber yn hanfodol. Mae angen profiad o weithio o fewn platfform cwmwl hefyd, yn ddelfrydol mewn Amazon Web Services, ond mae Microsoft Azure neu Google Cloud Platform yn dderbyniol.

Os teimlwch y gallech gyfrannu at yr addysgu a'r dysgu o fewn y maes hwn, rydym am glywed wrthoch chi! Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.