MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £23.58 - £46.39 / awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £23.58 - £46.39 / awr
Darlithydd Achlysurol mewn HarddwchApplication Deadline: 27 May 2026
Department: Arall
Employment Type: Dim Oriau
Location: Campws Aberteifi
Reporting To: Tîm Rheoli'r Maes Cwricwlwm
Compensation: £23.58 - £46.39 / awr
DescriptionRydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol brwdfrydig ac arloesol ym maes Harddwch i ymuno â'n tîm fel Darlithydd Achlysurol, gan ddarparu profiadau dysgu diddorol sy'n berthnasol i'r diwydiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o therapyddion.
Gan weithio mewn cyfleusterau salon rhagorol o safon y diwydiant, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu sgiliau ymarferol a damcaniaethol dysgwyr ar draws ystod o ddisgyblaethau harddwch, gan ddefnyddio dulliau creadigol o addysgu, asesu a dysgu digidol.
Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o adran fywiog a chefnogol sy'n gwerthfawrogi cydweithio, datblygiad proffesiynol a chysylltiadau cryf â'r diwydiant harddwch. Byddwch yn cael y cyfle i fentora ac ysbrydoli dysgwyr, cyfrannu at weithdai a chystadlaethau, a chefnogi amgylchedd salon masnachol prysur sy'n adlewyrchu arferion y byd go iawn - gan wneud gwahaniaeth ystyrlon i ddilyniant dysgwyr i gyflogaeth neu astudiaeth bellach.
Cyfrifoldebau AllweddolBydd hi'n ofynnol i chi wneud y canlynol:
- Ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau VTCT, City & Guilds mewn pynciau Therapi Harddwch (e.e., Technoleg Ewinedd, Gofal Croen, Tylino'r Corff, Triniaethau i'r Wyneb, Tynnu Blew, Rheoli Salon) o L1 hyd at L3 o fewn y coleg ac ysgolion partner lleol.
- Gweithio gyda'r derbynnydd a rheolwyr i sicrhau bod salonau masnachol yn rhedeg yn effeithiol ac i gefnogi asesiadau ymarferol yn ogystal â bod yn broffidiol. Rhaid i hyn hefyd gynnwys gosod targedau a chymhellion gwerthu er mwyn i'r holl ddysgwyr allu eu hyrwyddo i'n cleientiaid. Cefnogi'r derbynnydd wrth adeiladu rhestr gref, broffidiol o gleientiaid.
- Gweithio gyda chydweithwyr Gwallt a Harddwch, rheolwyr, cyfarwyddwyr a rhanddeiliaid i sicrhau rhaglen effeithiol i ddysgwyr o weithdai a dosbarthiadau meistr sy'n gysylltiedig â'r diwydiant gan sicrhau bod dysgwyr yn cael amrywiaeth eang o gyfleoedd i ymgysylltu â'r diwydiant gwallt a harddwch.
- Sicrhau arloesedd wrth gynllunio, cyflwyno ac mewn asesiadau yn y gwaith ymarferol a gwaith theori hefyd gan ddefnyddio technoleg ddigidol o fewn y salonau.
- Paratoi dysgwyr ar gyfer cymryd rhan mewn cystadlaethau yn Genedlaethol a Rhyngwladol gan fentora dysgwyr drwy'r broses a mynd gyda dysgwyr yn ôl yr angen.
- Mynd gyda dysgwyr ar deithiau i amrywiaeth o leoliadau yn unol â gofynion manylebau'r cwrs.
- Rhannu arfer da i gefnogi DPP o fewn y tîm gwallt a harddwch.
- Cynllunio a chynnal gweithgareddau sicrhau ansawdd yn effeithiol gan ddilyn calendr ansawdd yr adran Gwallt a Harddwch.
- Hyrwyddo cyrsiau cwricwlwm llawn a rhan-amser a salon masnachol i amrywiaeth eang o randdeiliaid.
- Cyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- Cymhwyster cydnabyddedig Lefel 3 (neu uwch) mewn Therapi Harddwch (e.e. Diploma/NVQ Lefel 3)
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus priodol
- Diploma L3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch
- Diploma L3 mewn Therapïau Cyflenwol
- Cymhwyster L3 mewn Ewinedd
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Dyfarniad L4 mewn Cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Profiad o gyflwyno meysydd arbenigol fel Triniaethau Trydanol, Aromatherapi, neu Adweitheg
- Gallu gyrru bws mini'r coleg
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 23.68% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein