MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Swansea,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Heb ei ddarparu
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 11 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rydym yn awyddus i apwyntio Cyfathrebydd BSL drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn yr ysgol. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol .
Croesawn geisiadau gan unigolion â'r brwdfrydedd a'r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe.
Prif ddiben y rôl yw darparu cymorth dehongli a chyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i sicrhau bod dysgwyr byddar yn cael mynediad cyfartal at y cwricwlwm, yn gymdeithasol ac yn academaidd. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynllunio ac ymgymryd â gweithgareddau cefnogi dysgu sy'n berthnasol i anghenion y dysgwr byddar; cyd-gysylltu â staff ysgol, rhieni, asiantaethau allanol a chydweithwyr eraill i sicrhau bod strategaethau dysgu effeithiol yn cael eu rhoi ar waith; a chyfrannu at gynllun cefnogi dysgu unigol i'r dysgwr.
Rydym yn benodol yn edrych am unigolyn sydd â'r cymwysterau ysgolion uwchradd rhaid meddu ar o leiaf gymhwyster Lefel 3 BSL gyda pharodrwydd i weithio tuag at Lefel 4 BSL. Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn bwysig, ac rydym yn annog Cyfathrebwyr BSL i barhau i ddatblygu eu rhuglder BSL. Mae'n rôl allweddol i sicrhau cefnogaeth i'n disgyblion i gyd i fod y gorau allant fod ac i gyrraedd eu potensial.
Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer ei holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau'r ysgol yn ogystal a sicrhau'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.
Dyddiad Dechrau: Dyddiad i'w gadarnhau
Cyflog: Graddfa Cyflog 6
Cytundeb: 30awr amser tymor yn unig
Dyddiad cau: 11.05.2026 12 y.p.
YGG Bryn Tawe - CYFATHREBWR CYMRAEG - Job description ( PDF, 152 KB )
Application form - school-based support staff ( Word doc, 134 KB )
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy'r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon.
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Dylid danfon am ffurflen gais a gwybodaeth bellach at:
Mrs Eirian Leonard/Miss Tennille McCord, Rheolwr Busnes/Is Rheolwr Busnes Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais erbyn: 12 y.p
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Last modified on 29 April 2026
Is this page useful? No Report a problem with this page
// This will stay here var feedbackOptions = { showYes: true, showProblem: true, positiveText: "Yes", feedbackQuestion: "Is this page useful?", feedbackText: "Thank you for your feedback", contentArticleId: 45699 }; gi.feedback(feedbackOptions);