MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: ISR - L9 £64,174 - L15 £74,384
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 07 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: ISR - L9 £64,174 - L15 £74,384
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn yn ceisio recriwtio arweinydd ysbrydoledig ac ymroddedig a fydd yn parhau i ymgorffori a hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol:Bod yn gymuned hapus, ddiogel, gefnogol,
gyda gwerthoedd cadarnhaol wrth ei chraidd,
gan agor calonnau a meddyliau ei dysgwyr
trwy brofiadau ysbrydoledig, dilys,
agor drysau i fyd o gyfleoedd a phosibiliadau.
Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn - hysbysebwyd -24/04/2026
I ddechrau 1 Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny
ISR L9-L15
Math o gontract: Llawnamser
Cyfnod y contract: Parhaol
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd y Roch am benodi Pennaeth rhagorol i arwain ein hysgol lwyddiannus, hapus a chynhwysol.
Bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y nodweddion canlynol:
- Arweinydd brwdfrydig, ysbrydoledig ac arloesol sy'n meddu ar sgiliau addysgu a rheoli diamheuol
- Person sy'n gallu dangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf
- Wedi ymrwymo i gynnal ein hethos presennol, safonau uchel a gwelliant parhaus
- Brwdfrydig ynglŷn â meithrin y partneriaethau rhwng disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach
- Gallu datblygu a gweithredu gweledigaeth glir ar gyfer datblygiad parhaus ein hysgol yn unol ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.
- Gallu dangos dulliau addysgeg cryf gan fod disgwyl y bydd y pennaeth yn ymgymryd ag ymrwymiad addysgu.
- Bydd gwybodaeth am brosesau ADY yn hanfodol.
Mae gan yr ysgol dîm o staff sy'n frwdfrydig, talentog ac ymroddedig, ac sy'n cael ei gynorthwyo gan ein corff llywodraethu rhagorol ac ymrwymedig. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac yn datblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog.
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i fod yn ysgol sy'n hyrwyddo iechyd ac mae arferion cynaliadwy yn rhan annatod o fywyd yr ysgol.
"Mae'r ysgol yn gymuned groesawgar lle mae llesiant yn flaenoriaeth. Mae ethos a gweledigaeth yr ysgol yn sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfleoedd cyson i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Ynghyd â disgyblion a rhieni, mae pob un o'r staff yn meithrin cydberthnasau proffesiynol cadarnhaol â dysgwyr a'u teuluoedd ar draws yr ysgol."
(Estyn 2023)
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth [CPCP] (oni bai eu bod wedi'u penodi'n bennaeth cyn 2005).
Mae penodi unigolyn i'r swydd hon yn amodol ar gais am ddatgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dyddiad cau: Dydd Iau 7 Mai (hanner nos)
Llunio'r rhestr fer: Dydd Gwener 8 Mai
Gellir trefnu ymweliadau â'r ysgol drwy gysylltu â chadeirydd y llywodraethwyr, Karen Loo, ar 07786266248
Diwrnod cyfweld 1: Dydd Iau 14 Mai 2026 yn Ysgol y Garn
Diwrnod cyfweld 2: Dydd Gwener 15 Mai 2026 yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP
Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno ceisiadau ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud hyn, cysylltwch â'r Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted â phosibl drwy anfon neges e-bost i recruit@pembrokeshire.gov.uk.
Yn ogystal â hyn, os oes gennych unrhyw anghenion pellach neu os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at recruit@sir-benfro.gov.uk.
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.