MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Grade 7 - £32,061 - £35,412
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 7 - £32,061 - £35,412
Mae Cyngor Sir Penfro am benodi tri Swyddog Lles Addysg ymroddedig a phrofiadol i ymuno â'r Gwasanaeth Lles Addysg, gan gefnogi ysgolion, plant, pobl ifanc a theuluoedd i wella presenoldeb yn yr ysgol a hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol.Dyma gyfle i weithio mewn rôl statudol, broffesiynol ymreolaethol, gan gyfrannu at ymyrraeth gynnar, diogelu a gorfodi yn unol â deddfwriaeth addysg a phlant.
Mae hwn yn gyfle unigryw i fod yn rhan o broses Clirio, Cynnal, Adeiladu , y prosiect Presenoldeb yn yr Ysgol, a ariennir drwy rhaglen Plismona Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sy'n darparu ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Ynglŷn â'r rôl
Fel Swyddog Lles Addysg, byddwch yn gweithio o fewn model amlasiantaethol, sy'n seiliedig ar glwstwr, gan ddarparu ymyrraeth dargedig, gynnar a statudol lle mae presenoldeb yn bryder. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd, ysgolion ac asiantaethau partner i sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn presenoldeb yn yr ysgol ac i gefnogi dyletswyddau statudol yr awdurdod lleol.
Mae'r rôl yn cynnwys rheoli achosion, gwneud penderfyniadau proffesiynol ac uwchgyfeirio, gan gynnwys cymhwyso gorfodi statudol lle bo angen.
Prif gyfrifoldebau
- Gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i fynd i'r afael â phryderon presenoldeb a gwella canlyniadau.
- Cyflwyno ymyriadau presenoldeb cynnar, wedi'u targedu a statudol yn unol â throthwyon a pholisïau'r gwasanaeth.
- Dadansoddi data presenoldeb i flaenoriaethu achosion, monitro cynnydd a llywio penderfyniadau.
- Cadeirio a chyfrannu at gyfarfodydd gydag ysgolion, teuluoedd ac asiantaethau partner.
- Cynghori a herio ysgolion yn briodol ar arferion a systemau presenoldeb.
- Cymhwyso prosesau statudol gan gynnwys llythyrau rhybuddio, hysbysiadau cosb, contractau a gorchmynion rhianta, gorchmynion goruchwylio addysg a pharatoi achosion ar gyfer y llys.
- Gweithio ar y cyd o fewn fframwaith amlasiantaeth, gan gyfrannu at drefniadau diogelu a chymorth cynnar.
- Cynnal cofnodion achosion cywir a chyfrannu at fonitro perfformiad a sicrhau ansawdd.
- Hyrwyddo lles a diogelu plant a phobl ifanc yn unol â deddfwriaeth a pholisïau'r cyngor.
Byddwch yn meddu ar y canlynol:
- Profiad sylweddol o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, yn ddelfrydol o fewn maes addysg, gofal cymdeithasol neu wasanaeth statudol cysylltiedig.
- Dangos dealltwriaeth gref o bresenoldeb, diogelu a'r fframwaith cyfreithiol sy'n ymwneud â lles addysg.
- Byddwch yn hyderus yn gweithio'n annibynnol, gan arfer barn broffesiynol o fewn fframweithiau y cytunwyd arnynt.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno achosion.
- Bod yn fedrus wrth ddadansoddi data a defnyddio systemau i lywio ymarfer.
- Dangos dull ymroddedig, anfeirniadol a gwrthormesol o weithio gyda theuluoedd.
- Y gallu i weithio'n annibynnol, rheoli blaenoriaethau cystadleuol ac addasu ymarfer i wahanol leoliadau.
- Mae trwydded yrru lawn a mynediad at gerbyd yn hanfodol. Mae angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol.
Sgiliau hanfodol a chymwysterau
- Gradd mewn pwnc perthnasol a'r gallu i ysgrifennu, cyfleu a chynhyrchu adroddiadau i safon uchel.
- Yn gallu dadansoddi data o systemau cronfa ddata ysgolion ac awdurdodau lleol yn unol â GDPR (2018).
- Sgiliau TG a bysellfwrdd cryf gyda phrofiad mewn pecynnau meddalwedd a systemau cronfeydd data.
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol.
- Y gallu i reoli llwythi gwaith a chwrdd â therfynau amser o dan bwysau.
- Cydweithio'n dda fel aelod o dîm.
- Cymhwyster Ysgolion sy'n Ystyriol o Drawma, neu barodrwydd i weithio tuag at hyn.
- Y cyfle i gyfrannu at raglen gwella presenoldeb sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Gwaith ystyrlon sy'n cefnogi plant, teuluoedd ac ysgolion ledled Sir Benfro.
- Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid yn unol â pholisi'r cyngor.
- Amgylchedd tîm cefnogol a phroffesiynol sy'n canolbwyntio ar wella a dysgu.
- Rôl amrywiol a diddorol yn cefnogi gwasanaethau addysg statudol.
- Y cyfle i gyfrannu at ddiogelu a chanlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.
- Trefniadau gweithio hybrid yn unol â pholisi'r cyngor.
- Mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
Pam ymuno â ni?
Dyma gyfle i gael effaith ystyrlon mewn rôl sy'n cefnogi lles ac addysg plant a phobl ifanc. Byddwch yn ymuno â thîm hynod ymroddedig o fewn amgylchedd gwaith cefnogol, gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Ymrwymiad diogelu
Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Rhaid i bob ymgeisydd rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau cyn-gyflogaeth priodol, gan gynnwys gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Lleoliad: Neuadd y Sir/lleoliadau ysgol/gweithio hybrid
Contract: Tymor Penodol (24 mis, gydag estyniad posibl yn amodol ar gyllid)
Dyddiad Cau: 12/05/2026
Am ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Kelly Hamid - Rheolwr y Gwasanaeth Lles Addysg
01437 774658
Kelly.Hamid@pembrokeshire.gov.uk
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.