MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Llanfairpwll,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: 12.85 - 12.85 GBP per Hour
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Ganol Dydd

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 12.85 - 12.85 GBP per Hour

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
  • Arolygu a chadw trefn ar y disgyblion cyn, yn ystod ac ar ôl prydau gan gynnwys arolygu yn y maes chwarae neu yn y neuadd a'r dosbarthiadau yn ystod tywydd gwlyb.
  • Bydd dyletswyddau'n cynnwys tywys y plant i'r ystafell fwyta a chynorthwyo'n gyffredinol yn y ffreutur tra bydd y bwyd yn cael ei weini.
  • Gyda babanod, bydd y dyletswyddau'n cynnwys cario platiau bwyd at y byrddau (os nad oes trefniadau eraill wedi eu gwneud gan y Pennaeth) torri cig ayb, hyfforddi'r plant i ddefnyddio cyllyll a ffyrc.
  • Bydd Goruchwyliwr yn sicrhau nad ydyw'r plant ar unrhyw adeg heb arolygaeth.
  • Mewn Ysgol Uwchradd mae arolygaeth yn cynnwys rheoli'r ciw tu fewn a thu allan i'r ffreutur.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Gwyn Pleming

Rhif ff ô n: 01248 714478

Cyfeiriad e-bost: 660 2152_pennaeth.llanfairpwll@Hwbcymru.net

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Llanfairpwll, Llanfairpwll, Ynys Môn, LL65 5TX

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 08 Mai 2026