MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Merthyr, CF48 1AR
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £32,291 - £35,812
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,291 - £35,812
Mae Y Coleg Merthyr Tudful yn sefydliad deinamig yn ymrwymedig i ddarparu addysg alwedigaethol lwyddiannus ac o ansawdd uchel. Rydym yn angerddol am rymuso ein myfyrwyr gyda'r sgiliau ymarferol a gwybodaeth diwydiant sy'n cwrdd â'r galw cyfredol a chynyddol. Fel rhan o'n hehangiad, rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr / Arddangoswr cymwysedig a phrofiadol i ymuno a'n tîm egnïol.Crynodeb Swydd:
Bydd y Cyfarwyddwr / Arddangoswr Cerbyd Modur yn gyfrifol am gefnogi ein rhaglenni hyfforddi modurol gan gynnal a pharatoi cerbydau, offer a chyfleusterau gweithdai. Bydd y cyfarwyddwr / arddangoswr yn gweithio'n agos gyda thiwtoriaid i gyflwyno hyfforddiant ymarferol, yn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn profiad ymarferol gwerthfawr yn unol â safonau'r diwydiant. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynnal a chadw amgylchedd gweithdy diogel ac effeithlon a darparu arweiniad a chyfarwyddiad i fyfyrwyr ar arferion gorau. Yn ychwanegol, bydd y swydd yn galw am rhai elfennau o hyblygrwydd i weithredu o fewn yr adran, mae hyfforddiant cymorth cyntaf neu weithio tuag ato yn ddymunol, ond bydd y coleg yn cefnogi hyn trwy ei rhaglen DPP mewnol.
Mae gwiriad DBS a chofrestriad CGA yn ofynion y swydd hon.
Rydym yn disgwyl i holl staff hybu ein gwerthoedd Coleg byw; Proffesiynol, Ysbrydoledig, Cydweithredol a Chefnogol
Yn Y Coleg Merthyr Tudful, rydym yn sefydliad cynhwysol lle rydym nid yn unig yn derbyn gwahaniaeth - rydym yn ei ddathlu ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob diwylliannau a chefndiroedd.
Os gwelwch yn dda, ymgeisiwch trwy ffurflen gais yn unig.
Dyddiad cau am geisiadau: 08/05/2026