MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Grade 6 - £28,142 - £31,022 pro rata
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 6 - £28,142 - £31,022 pro rata
Gradd 6 - £28,142.00 am 37 awr yr wythnos am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £24,720.05 pro rata.Mae Cyngor Sir Penfro yn chwilio am Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd profiadol a brwdfrydig i ymuno â'r Gwasanaeth Lles Addysg a chwarae rhan allweddol o ran gwella presenoldeb yn yr ysgol ar draws ysgolion targed yn y sir.
Mae hwn yn gyfle unigryw i fod yn rhan o brosiect presenoldeb ysgol Clirio, Cynnal, Adeiladu , a ariennir drwy raglen proffil troseddau ardaloedd, sy'n darparu ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Ynglŷn â'r rôl
Bydd y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn arwain y gwaith gweithredol o gyflwyno'r Prosiect Ymgysylltu â Theuluoedd a'r Gymuned o fewn ysgolion targed, gan gydweithio'n agos â theuluoedd, ysgolion a phartneriaid amlasiantaeth i wella presenoldeb a chanlyniadau addysgol.
Byddwch yn canolbwyntio ar ymgysylltu â theuluoedd sy'n anodd eu cyrraedd, sydd wedi ymddieithrio neu sy'n profi lefel uwch o fregusrwydd, gan feithrin cydberthnasau dibynadwy a chydlynu cymorth wedi'i dargedu yn y gymuned. Mae'r rôl yn rhan o'r Gwasanaeth Lles Addysg ac yn gweithio o dan gyfarwyddyd Rheolwr y Gwasanaeth Lles Addysg.
Prif gyfrifoldebau
- Cyflwyno Prosiect Ymgysylltu â Theuluoedd a'r Gymuned ar draws ysgolion targed Sir Benfro, gan gefnogi presenoldeb dysgwyr ac ymgysylltu gwell.
- Adeiladu a chynnal cydberthnasau cadarnhaol ac ymddiriedus gyda theuluoedd i hyrwyddo presenoldeb cyson yn yr ysgol.
- Gweithio ar y cyd ag ysgolion, cydweithwyr Lles Addysg ac asiantaethau partner i gael gwared ar rwystrau sy'n effeithio ar bresenoldeb.
- Cyfeirio a chefnogi teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau lleol perthnasol.
- Monitro, gwerthuso ac adrodd ar weithgarwch a chanlyniadau'r prosiect, gan ddarparu adborth pwrpasol i ysgolion.
- Cyfrannu at ddull cyson, ataliol a pherthynol o wella presenoldeb.
Amdanoch chi
Byddwch yn meddu ar y canlynol:
- Profiad sylweddol o weithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
- Profiad o gyflwyno gwaith grŵp sy'n canolbwyntio ar deuluoedd neu ymyriadau yn y gymuned.
- Sgiliau cyfathrebu cryf, gan gynnwys sgiliau ysgrifennu adroddiadau a gweithio mewn partneriaeth.
- Y gallu i weithio'n annibynnol, rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro ac addasu ymarfer i wahanol leoliadau.
- Dull hyblyg, sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau, wedi'i alinio ag ymyrraeth gynnar ac atal.
- Mae trwydded yrru lawn a mynediad at gerbyd yn hanfodol. Mae angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol.
Byddwch yn drefnus iawn, yn canolbwyntio ar fanylion, ac yn gallu gweithio'n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Sgiliau hanfodol a chymwysterau
- Cymhwyster perthnasol ar Lefel 3 NVQ neu gymhwyster cyfatebol.
- Sgiliau TG a bysellfwrdd cryf gyda phrofiad mewn pecynnau meddalwedd a systemau cronfeydd data.
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol.
- Y gallu i reoli llwythi gwaith a chwrdd â therfynau amser o dan bwysau.
- Chwaraewr tîm cydweithredol.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig
- Y cyfle i gyfrannu at raglen gwella presenoldeb sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Gwaith ystyrlon sy'n cefnogi plant, teuluoedd ac ysgolion ledled Sir Benfro.
- Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid yn unol â pholisi'r cyngor.
- Amgylchedd tîm cefnogol a phroffesiynol sy'n canolbwyntio ar wella a dysgu.
- Rôl amrywiol a diddorol yn cefnogi gwasanaethau addysg statudol
- Y cyfle i gyfrannu at ddiogelu a chanlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.
- Trefniadau gweithio hybrid yn unol â pholisi'r cyngor
- Mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y swydd-ddisgrifiad a manyleb y person sydd wedi'u hatodi.
Pam ymuno â ni?
Dyma gyfle i gael effaith ystyrlon mewn rôl sy'n cefnogi lles ac addysg plant a phobl ifanc. Byddwch yn ymuno â thîm hynod ymroddedig o fewn amgylchedd gwaith cefnogol, gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Ymrwymiad diogelu
Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Rhaid i bob ymgeisydd rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau cyn cyflogi priodol, gan gynnwys gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Lleoliad: Neuadd y Sir/lleoliadau ysgol/gweithio hybrid
Contract: Tymor penodol (24 mis, gyda'r posibilrwydd o estyniad yn amodol ar gyllid)
Dyddiad cau: 12/05/2026 (angen hysbysebu am gyfnod o bythefnos)
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Kelly Hamid - Rheolwr y Gwasanaeth Lles Addysg
01437 774658
Kelly.Hamid@pembrokeshire.gov.uk
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.