MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau am benodi un athro llawn amser ar sail parhaol ac un athro llawn amser ar sail contract blwyddyn. Mae hwn yn gyfle gwych i ymarferydd ymroddgar, brwdfrydig a myfyriol sydd ag ymrwymiad cryf i wella a rhagori ym maes addysgu. Mae croeso i athrawon newydd gymhwyso wneud cais.Byddwch yn ymuno â ni ar adeg o ddatblygiadau cyffrous yn Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau, gan ein bod wedi gweithio'n ddiflino dros y blynyddoedd diwethaf i ymwreiddio ein cwricwlwm newydd a'r dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir yn yr ysgol. Mae hwn yn gyfle i ymuno â ni a pharhau i adeiladu ar ein llwyddiannau diweddar. Rydym yn addo cynnig cyfleoedd cynhwysfawr a chyfoethog ar gyfer datblygiad proffesiynol i bob aelod o staff.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan annatod o'n tîm, gan weithio i arwain yr ysgol at ein huchelgais o fod yn ysgol ragorol. Byddai'r swyddi hyn hefyd yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd ag uchelgais i fod yn arweinwyr yn y dyfodol, gyda chyfleoedd i arwain yn codi'n gyson o fewn ein hysgol.
Sut mae ein hathrawon yn teimlo wrth weithio yma? " Mae ein hysgol ni'n ysgol gyfeillgar a chroesawgar, sydd wedi ymrwymo i gynnig gofal rhagorol i'n disgyblion a datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i'n staff. Byddwch yn cael y buddion uniongyrchol o ymuno â thîm o staff ymroddedig, cydweithredol a chyfeillgar, sy'n gwbl ymroddedig i roi eu gorau glas i bob plentyn mewn ysgol lle mae pob plentyn yn bwysig a phob eiliad yn cyfrif".
Rydym yn chwilio am rywun sy'n bodloni manyleb y person yn y swydd-ddisgrifiad ac sy'n bodloni'r canlynol:
- yn ymarferydd cynradd o ansawdd uchel â dyheadau uchel i ddisgyblion
• yn angerddol ac yn wybodus am ddysgu am ddatblygiad plant, ac yn cymhwyso'r wybodaeth honno yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau'r cynnydd gorau posibl i bob dysgwr
• yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o addysgeg, ac yn ymwneud â'r pedwar diben a'r profiadau dysgu sy'n ganolog i ddiwygio'r cwricwlwm ar hyn o bryd - yn ofalgar, yn garedig, yn amyneddgar ac yn meddu ar synnwyr digrifwch i roi'r gefnogaeth a'r arweiniad sydd eu hangen ar ein disgyblion i fod yn llwyddiannus.
Cysylltwch â Stephen Thomas, pennaeth yr ysgol, ar 01646 692705 os hoffech drafod y swyddi gwag neu fel arall, rydym yn cynnal ymweliadau â'r ysgol ddydd Llun 27 Ebrill am 3.45pm neu ddydd Mawrth 28 Ebrill am 9.30am. Trefnwch le ymlaen llaw drwy gysylltu â'n tîm yn y dderbynfa.
Dyddiad cau: Dydd Mercher 6 Mai 2026
Llunio'r rhestr fer: Dydd Gwener 8 Mai 2026
Arsylwadau gwersi: Wythnos yn dechrau 11 Mai 2026
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 18 Mai 2026
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.