MANYLION.
  • Lleoliad: Glynebwy,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: MPS2 - UPS3 £33,731 - £51,942 Y Flwyddn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 05 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro - Ysgol Gynradd Rhos y Fedwen

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflog: MPS2 - UPS3 £33,731 - £51,942 Y Flwyddn

Dyddiad Dechrau: Dydd Mawrth, Medi 1 af 2026

Hysbyseb Lawn

Ysgol fechan gyda ffocws ar y gymuned ydy Ysgol Rhos y Fedwen, sydd wedi ymrwymo'n gryf i feithrin cariad at ddysgu. Rydyn ni'n chwilio i benodi ymarferydd uchelgeisiol, arloesol ac ysbrydoledig sy'n angerddol ynghylch galluogi dysgwyr a chydweithwyr i gyflawni a ffynnu gyda'i gilydd. Mae llesiant yn gorwedd wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud.

Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n:
  • ymarferydd ardderchog gyda disgwyliadau uchel, cyson o bob dysgwr, yn academaidd ac yn gymdeithasol.
  • meithrin cariad at ddysgu tra'n cefnogi datblygiad dysgwyr a chydweithwyr chwilfrydig, creadigol.
  • cydweithio â thîm o gydweithwyr cefnogol.
  • â'r sgiliau a'r brwdfrydedd i gryfhau ein partneriaethau crfy gyda'n teuluoedd, y gymuned ehangach ac ysgolion cyfagos.
  • arwain Maes Dysgu a Phrofiad yn hyderus ar draws yr ysgol ac yn ymrwymo'n weithredol i gyfrannu at sefydliad dysgu gwrth-hiliol.
  • ymdrechu i fod y gorau gallen nhw ac yn cefnogi eraill i wneud yr un fath.

Yn gyfnewid am hyn, medrwn gynnig:
  • cymuned ysgol gynnes, ofalgar a chynhwysol
  • ymrwymiad cryf i'ch twf a lles proffesiynol
  • cyfleoedd i arwain, arloesi a gwneud gwahaniaeth go iawn
  • cefnoaeth i ffynnu fel dysgwr myfyriol, gydol oes

Ymgymerir â sgrinio trylwyr cyn cyflogi yn ystod y broses recriwtio. Disgwylir i ddeiliad y swydd gwblhau cais Datgeliad Cofnodion Troseddol.

Dyddiad cau: 12 hanner dydd, Mai 5 ed 2026

Rhestr fer: Mai 5 ed 2026

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu harsylwi yn addysgu ar Fai 7 fed /8 fed 2026

Cyfweliadau: Mai 15 fed 2026

Bydd ymgeiswyr yn cael cynnig y cyfle i fynychu ymweliad ysgol am 4yp ar ddydd Mawrth, Mai 12fed 2026 . Cadarnhewch ymlaen llaw gyda chlerc yr ysgol.