MANYLION.
  • Lleoliad: Cyfreithiol,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,596 - £51,932
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 14 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Amaethyddiaeth CC/3082

Coleg Cambria

Cyflog: £33,596 - £51,932

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Amaethyddiaeth

Lleoliad: Llysfasi

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: M1 £33,596 - UP3 £51,932 (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Raddfa Dâl Uwch)

Yng Ngholeg Cambria, rydym yn chwilio am Ddarlithydd Amaethyddiaeth i ymuno â'n tîm Cyrsiau'r Tir yn Llysfasi.

Fel Darlithydd, byddwch yn addysgu ac yn ysbrydoli dysgwyr mewn amrywiol bynciau amaethyddol, gan gynnwys hwsmonaeth da byw, busnes, rheoli llygredd ac arallgyfeirio ffermydd. Mae gan Llysfasi fferm weithredol fodern, sy'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf ac amgylchoedd hardd.

Bydd eich dyletswyddau yn cynnwys addysgu ar adegau a drefnwyd, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, a chysylltu â chyrff dyfarnu ar gyfer goruchwylio arholiadau. Byddwch yn rhoi arweiniad addysgol, cymorth a chyngor i fyfyrwyr, a chymryd rhan mewn marchnata, cynllunio, asesu a gwerthuso'r cyrsiau sy'n cael eu cynnig.

Byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid eraill ar ddatblygu adnoddau a'r cwricwlwm, gan ganolbwyntio ar safonau ansawdd, a deall amrywiol anghenion dysgu a sut i'w cefnogi. Byddwch hefyd yn rhan o ysgrifennu adroddiadau myfyrwyr.

Gofynion Hanfodol

• Rhaid i chi fod â chymwysterau Lefel 5 o leiaf mewn Amaethyddiaeth neu bwnc perthnasol.

• Yn ddelfrydol, byddwch yn athro cymwys gyda chymhwyster TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407, neu'n fodlon gweithio tuag at ennill un.

• Dylech chi allu datblygu a defnyddio technegau addysgu amrywiol a pharatoi deunyddiau ysgrifenedig a gweledol effeithiol.

• Bydd angen sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog arnoch chi, yn aelod cadarn o dîm gyda brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu.

• Ymwybodol o bwysigrwydd safonau ansawdd mewn dysgu.

Os ydych chi'n angerddol am amaethyddiaeth ac addysg, byddem wrth ein bodd yn cael clywed gennych chi!

Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd angen i ddysgwyr Cymraeg fod ar Lefel 3 a gydag ymrwymiad i gyflawni rhuglder. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gefnogi'r datblygiad hwn trwy gynllun datblygiad proffesiynol wedi'i deilwra. Bydd asesiad sgiliau Iaith Gymraeg yn rhan o'r broses ddethol i nodi cymhwysedd, hyder ac addasrwydd ar gyfer cynllun datblygu.

Hanfodol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig