MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: City Centre Campus,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £10,379.60 - £10,502.40 per annum (Based on a full-time equivalent salary of £25,949 - £26,256 per annum
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 01 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £10,379.60 - £10,502.40 per annum (Based on a full-time equivalent salary of £25,949 - £26,256 per annum
Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Technegydd Ffotograffiaeth a Phrint yn yr adran Greadigol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas, Dumballs Road, Caerdydd.Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Cydlynu'r gwaith o osod a rheoli holl offer a chyfleusterau technegol yr adan er mwyn sicrhau bod darlithwyr, myfyrwyr a defnyddwyr eraill y cael cymorth a help ymarferol. Sgiliau neu allu blaenorol i ddefnyddio argraffwyr Ffotograffig a graffig proffesiynol i gynorthwyo myfyrwyr gyda chynhyrchu delweddau o safon uchel.
- Goruchwylio, Cydlynu ac ymgymryd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac arferol o'r holl gyfleusterau ac ardaloedd addysgu o fewn yr ystafelloedd arbenigol ffotograffiaeth, gan sicrhau amgylchedd gweithio glân a diogel.
- Gwaith cynnal a chadw cyffredinol o'r dosbarthiadau Creadigol arbenigol a glanhau ardaloedd gweithio, trefnu ac adleoli offer yn yr ardaloedd gwaith arbenigol. Cynnal systemau archebu offer ffotograffig ac ystafelloedd ffotograffiaeth.
- Cynorthwyo'r staff darlithio yn ystod gwersi ymarferol, arholiadau ac arddangosfeydd trwy baratoi offer a goruchwylio gwaith technegol ac arddangos lle bo hynny'n briodol.
- Cwblhau gwiriadau cynnal a chadw ac offer rheolaidd fel y'u rhestrir mewn amserlenni neu yn unol â chyfarwyddyd y darlithydd sy'n gyfrifol, cynorthwyo i wirio stocrestrau yn flynyddol, ac archebu a derbyn nwyddau. Bod yn gyfrifol am Reoli Stoc yn yr adran Greadigol, yn monitro, archebu, storio stoc a chofnodi stoc yn ddiogel, a'u cynnal a'u cadw.
- Goruchwylio'r gwaith o Osod, cynnal a chadw ac atgyweirio cyfrifiaduron, a chynghori wrth ymgymryd â'r gwaith hwnnw, a ffurfweddu meddalwedd a ddefnyddir o fewn yr adran.
- Goruchwylio a chydlynu systemau a gweithdrefnau ar gyfer archebu a benthyca offer a chyfleusterau stiwdio i fyfyrwyr, staff a chwsmeriaid, yn fewnol ac yn allanol.
- Cyfarwyddo a goruchwylio myfyrwyr wrth ddefnyddio camera digidol, goleuo camerâu ffilm analog ac offer cemegol ystafell dywyll yn ogystal â sesiynau dysgu dan arweiniad.
- Sicrhau bod staff a myfyrwyr yn cydymffurfio â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch, gan sicrhau y glynir at arferion gweithio diogel drwy'r amser; gan sicrhau bod myfyrwyr yn cwblhau sesiynau sefydlu yn llwyddiannus ar gyfer defnyddio stiwdios ac ystafell dywyll gemegol.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai'n ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 1st Mai 2026 - 11:59pm.
I gael gwybod mwy neu wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch ag Adran Adnoddau Dynol ar 02920 250311 neu recruitment@cavc.ac.uk .
Mae pob swydd wag yn amodol ar wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS dilys ac wedi'i ddiweddaru. Mae hwn yn gytundeb contractiol sy'n rhaid bod ar waith cyn i'ch cyflogaeth ddechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-ddedfrydwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Mae'r rhain yn gytundebau contractiol y mae'n rhaid eu sefydlu cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl ac rydym yn gyflogwr cynllun Hyderus o ran Anabledd.