MANYLION.
  • Lleoliad: Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £29,878 - £32,423 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 05 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu (Cyfnod Mamolaeth)

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £29,878 - £32,423 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Swyddogaeth yr adran Farchnata a Chyfathrebu yw datblygu a gweithredu cynlluniau a strategaethau marchnata er mwyn cynorthwyo'r Grŵp i gyflawni ei amcanion.

Mae cyfraniad y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu i'r adran yn allweddol a bydd yn cefnogi'r gwaith o recriwtio myfyrwyr drwy hyrwyddo darpariaeth y Grŵp a'r Coleg yn effeithiol. Bydd hefyd yn sicrhau bod holl ddeunydd cyfathrebu'r Grŵp o'r safon uchaf ac yn hyrwyddo'r ystod eang o gyfleoedd a gynigir gan y Grŵp yn ogystal â'i lwyddiannau niferus.

Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ystod o sgiliau a gwybodaeth i'w alluogi i gyfrannu'n effeithiol i ddarparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu o'r radd flaenaf, yn fewnol ac yn allanol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/194/26

Cyflog
£29,878 - £32,423 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Bangor

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
05 Mai 2026
12:00 YH(Ganol dydd)