MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Across All Campuses,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £105,356 - £111,476 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £105,356 - £111,476 y flwyddyn
Prif Swyddog GweithreduCyflog: £105,356 - £111,476 y flwyddyn
Llawn Amser a Pharhaol
Mae Coleg Penybont yn chwilio am Brif Swyddog Gweithredu i ymuno â'r Uwch Dîm Arwain. Bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn Ddeiliad Swydd Uwch a bydd gofyn iddo ddirprwyo ar ran y Pennaeth a Phrif Weithredwr pan fo'n briodol.
Diben y swydd:
Arwain ar y gwaith o weithredu'r sefydliad, gan sicrhau rheolaeth effeithlon o ran cyllid, pensaernïaeth ddigidol, cyfleusterau a chydymffurfiaeth ochr yn ochr â datblygu gweithgarwch masnachol a goruchwylio cyflawniad yn erbyn cyllid craidd o grantiau.
Bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn cefnogi cyflawni'r Cynllun Strategol drwy ddangos craffter ariannol cryf, goruchwyliaeth strategol o gynllunio tymor byr, tymor canolig a hirdymor, ac arwain rheolwyr meysydd yn effeithiol.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Dyddiad cau: 30 Ebrill 2026
Dyddiad cyfweliad: 21 Mai 2026
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig galluogwyr llwyddiant trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus dda rparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.